Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru

Gwybodaeth Cyffredinol

Pryd mae'r grantiau'n cael eu rhoi?

Yn flynyddol bydd y Prif Swyddog Cyllid a Pherfformiad yn ystyried ceisiadau am grantiau mewn ymgynghoriad â’r Aelodau. Y tro nesaf y byddant yn ystyried ceisiadau fydd ym mis Medi. I gael cais wedi’i ystyried dylid ei gyflwyno erbyn 31 Gorffennaf. Gellir hawlio grantiau o fewn 3 mis ar ôl dangos tystiolaeth o’r gwariant.

Pa wariant sy'n gymwys?

Cyfeiriwch at y rhestr o feini prawf ar y ffurflen gais.

Y prif bwyntiau:

  • rhoddir grantiau i sefydliadau nid unigolion
  • mae grantiau'n symiau unigol ar gyfer eitemau o fudd parhaus, megis offer neu atgyweirio adeiladau.
  • ni roddir grantiau i gwmpasu costau rhedeg y gwasanaeth nac apeliadau/nawdd cyffredinol.

Pwy all wneud cais?

Sefydliadau â chyfansoddiad priodol â gweithgareddau o fudd i drigolion ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd y sefydliadau hyn wedi eu lleoli yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel arfer. Bydd ceisiadau gan sefydliadau tu allan i'r ardal yn cael eu hystyried os oes tystiolaeth glir o fudd amlwg i drigolion ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Faint?

Bob blwyddyn, mae gan y Gronfa oddeutu £9,000 i ddosbarthu. Ni fydd mwy na £500 yn cael ei roi ar gyfer grantiau unigol.

Pa na ellir rhoi grantiau i unigolion?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi mabwysiadu meini prawf ar gyfer ymgeisio am yr arian sydd ar gael. Nid oedd y grantiau myfyrwyr a budd-daliadau nawdd cymdeithasol sydd ar gael i unigolion nawr yn bodoli yn 1914, pan fyddai Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru wedi bod yn ffynhonnell bwysig o arian. Mae grantiau o'r Gronfa ar gael i sefydliadau â chyfansoddiad priodol ac nid i unigolion.

A oes gan awdurdodau eraill yng Nghymru Gronfa Deddfau Eglwysi Cymru?

Mae bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gweinyddu eu cronfeydd eu hunain. Dylai sefydliadau sydd â gweithgareddau o fudd i drigolion yr ardaloedd eraill gysylltu â'r awdurdod lleol priodol i wybod am eu meini prawf lleol hwy.


Ffurflen Gais

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Gais - Fersiwn MS Word - 101Kb

Ffurflen Gais - Fersiwn PDF - 27Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word


Dylid anfon ceisiadau cyflawn at y:

Prif Swyddog Cyllid a Pherfformaid
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam,
LL11 1AR

Ffôn: 01978 292716

yn ôl i'r brig

Cyswllt i

Cyngor