Sut i Roi Gwybod am Aelod sydd o bosib yn Torri'r Cod Ymddygiad

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi i benodi i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Mae’r Ombwdsmon hefyd yn archwilio cwynion am aelodau cyrff llywodraeth leol  sydd efallai wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n torri’r Cod Ymddygiad.  Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ac yn ddiduedd. 

Gall yr Ombwdsmon ystyried cwynion am ymddygiad aelodau:

  • Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol;
  • Cynghorau Cymuned;
  • Awdurdodau Tân;
  • Awdurdodau Heddlu;
  • ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Gall unrhyw un gwyno cyn belled â bod ganddynt wybodaeth uniongyrchol am yr ymddygiad maent yn cwyno amdano.  Yn unol â’r Cod Ymddygiad mae gofyn i gynghorydd roi gwybod am unrhyw dystiolaeth mae ganddi hi/ef am gyd-gynghorydd yn torri’r Cod.  Mae gan gynghorwyr ddyletswydd hefyd yn ôl y cod i beidio â gwneud cwynion sy’n drallodus.

Ymhlith yr enghreifftiau o ffyrdd y gall aelodau dorri Cod Ymddygiad Awdurdod mae:

  • ymddwyn mewn ffordd sy’n effeithio’n negyddol ar enw da eu Hawdurdod;
  • defnyddio ei swydd yn annheg i gael manteision personol neu fantais i rywun arall - neu wneud rhywbeth yn erbyn rhywun arall;
  • defnydd amhriodol o adnoddau’r awdurdod;
  • peidio â datgelu buddiant;
  • ymddygiad sy’n bwlio;
  • peidio â thrin pawb yn gyfartal; a
  • datgelu gwybodaeth gyfrinachol am unigolion heb reswm da.

Gall yr Ombwdsmon benderfynu p’un ag y bydd yn archwilio unrhyw gwyn.  Mae’r Ombwdsmon wedi cynhyrchu canllaw ar ei wefan sy’n gosod y ffactorau y bydd yn ei ystyried pan fydd yn penderfynu p’un ai i archwilio honiad ai peidio.  Mae nifer o gwynion a ddaw i’r Ombwdsmon ynghylch pethau dadleuol mae’r aelodau wedi eu dweud.  Mae’r Ombwdsmon yn glir nad pwrpas y Cod Ymddygiad yw rhwystro trafodaeth wleidyddol.   Mewn achosion difrifol yn unig fydd yr Ombwdsmon yn ei ystyried yn briodol i ymchwilio i feirniadaeth aelod o wrthwynebydd gwleidyddol.

Er mwyn gwneud cwyn mae’n rhaid i chi fod yn barod i’ch enw a beth a ddywedwch yn eich cwyn gael ei anfon i’r aelod dan sylw ac i’w Awdurdod.  Ceir posibilrwydd hefyd y daw hyn yn wybodaeth gyhoeddus ac efallai y bydd angen eich cyfweld fel rhan o’r archwiliad.

Rhaid i’r gwyn fod yn ysgrifenedig, o ddewis ar ffurf a ddarperir gan yr Ombwdsmon i’r diben hwn ar ei wefan.

Mae gwybodaeth a chyngor pellach am sut i wneud cwyn yn ogystal â ffurflen gwyno ar-lein ar gael ar wefan yr Ombwdsmon sef http://www.ombudsman-wales.org.uk/cy/

yn ôl i'r brig