Y Cyngor

Y Cyngor yw’r corff penderfynu eithaf a bydd holl elfennau eraill y strwythur yn deillio o’i awdurdod. Y Cyngor sy’n penderfynu ar fframwaith polisi y mae’r Bwrdd Gweithredol yn gweithio oddi fewn iddo. Prif swyddogaethau’r Cyngor yw:-

  • Penodi’r Bwrdd Gweithredol
  • Penodi ar gyfer Pwyllgorau a chyrff allanol (heb gynnwys y rhai a ddirprwyir i’r Bwrdd Gweithredol i’w penderfynu)
  • Penderfynu ar gyfrifoldebau ac amodau gorchwyl y Pwyllgorau
  • Mabwysiadu rheolau sefydlog ar ran y Cyngor
  • Gwneud trefniadau ar gyfer penodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyflogedig ac ystyried materion sy’n ymwneud ag unrhyw gamymddygiad
  • Cymeradwyo graddfa Treth y Cyngor
  • Ethol y Maer
  • Penodi Arweinydd y Cyngor
  • Penderfynu ar fframwaith polisi’r Cyngor trwy gymeradwyo cynlluniau strategol pwysig a restrir isod –
    • Datganiad Strategaeth Corfforedig
    • Cynllun Cymunedol (hanfod gan Werth Gorau)
    • Cynllun Datblygu Unedol
    • Cynllun Strategol a Gweithredol Tai
    • Cynllun Gwasanaethau Plant
    • Cynllun Gofal Cymdeithasol
    • Cynllun Addysg Strategol
    • Strategaeth Datblygiad Economaidd
    • Strategaeth Cludiant Integredig

Nodyn – monitrir y rhestr hon yn barhaol i adlewyrchu amgylchiadau newidiol, gofynion llywodraethol ac anghenion y Cyngor.

Cwestiynau Cyhoeddus

Gweld dyddiadau Pwyllgoraru'r Cyngor

yn ôl i'r brig