Swyddogaeth y Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn fydd:
- Adolygu neu graffu ar waith awdurdodau cyfrifol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gymaint ag y mae eu gweithgareddau yn ymwneud â llunio a gweithredu’r strategaeth berthnasol ar gyfer lleihau trosedd ac anrhefn yn ardal Wrecsam.
- Gwneud adroddiadau neu argymhellion i’r awdurdod lleol ynglŷn â gweithredu’r swyddogaethau hyn ac yn hyn o beth mae’n gorfod rhoi copi i bob awdurdod cyfrifol a pherson neu gorff cyfetholiadol yn unol â diffiniad Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998.
Yr Awdurdodau Cyfrifol yn Wrecsam yw:
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
- Heddlu Gogledd Cymru – Adran y Dwyrain
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Gwasanaeth Prawf Cymru (Ardal Gogledd Cymru)
Gyda’i gilydd mae’r Awdurdodau Cyfrifol hyn yn ffurfio aelodaeth sefydlog y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Aelodaeth (13 o seddi)
Sylwer – Bydd aelodau’r Pwyllgor Craffu Trefn Lywodraethol a Pholisi yn eistedd hefyd yn Bwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn
Cyswllt Gwasanaethau Pwyllgor
Julie Littlehales, Ffôn: 01978 292238
yn ôl i'r brig