Trwyddedu Amgylcheddol (14 aelod)

Gweithredu’r swyddogaethau, pwerau a’r dyletswyddau dirprwyedig canlynol:-

  • Awdurdodi rhoi trwyddedau ac ymarfer swyddogaeth y Cyngor dan y cyflawniadau canlynol (heb unrhyw ragfarnau at unrhyw bwerau a ddirprwywyd fel arall)
    • Deddf Betio, Hapchwarae a Lotrïau, 1963 (Traciau Betio)
    • Deddf Tai Lluniaeth Hwyrnosau, 1969
    • Deddf Lotrïau a Difyrion, 1976 (Lotrïau Bach a Difyrion â Gwobrau)
    • Deddf yr Heddlu, Fatrïoedd, ayb, (Darpariaethau Amrywiol), 1967
    • Deddf Theatrau, 1968 (Trwyddedau Theatrau)
    • Deddf Hapchwarae, 1968 (Adeilad Masnachol – Difyrion â Gwobrau)
    • Deddf Sinemâu, 1985 a Deddf Adloniannau’r Sul, 1932 (Sinemâu)
  • I ymarfer pwerau a dyletswyddau’r Cyngor dan Ddeddf Heddluoedd Trefol, 1847 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol), 1976, sy’n ymwneud â cherbydau hacnai a cherbydau hurio preifat, gan gynnwys rhoi neu wrthod trwyddedau fel sy’n briodol, heblaw am y rhai a ddirprwyir fel arall i Brif Swyddog Diogelu’r Cyhoedd.
  • Penderfynu ar geisiadau am Drwyddedau Gweithredwyr, Cerbydau a Gyrwyr Hurio Preifat a Cherbydau Hacnai, nad yw Prif Swyddog Diogelu’r Cyhoedd yn credu y gall eu cymeradwyo, oherwydd y ffeithiau a nodwyd yn y cais ac i gynghori ymgeiswyr i fod yn bresennol yn bersonol ym mhob achos.
  • Ymarfer swyddogaeth y Cyngor dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol), 1982 o ran Trwyddedau Adloniant Cyhoeddus, gan gynnwys penderfynu ar geisiadau am drwyddedau yn sgîl argymhellion a wnaed gan yr ymgeisydd a’r gwrthwynebwyr.
  • Penderfynu ar geisiadau i gofrestru staff diogelwch/drws, nad yw Prif Swyddog Diogelu’r Cyhoedd yn teimlo y gall eu cymeradwyo oherwydd y ffeithiau a amlygwyd yn y cais.
  • Atal neu ddiddymu cofrestriad staff diogelwch/drws.
  • Ymarfer swyddogaeth y Cyngor dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol), 1982 o ran rheoli sefydliadau rhyw.
  • Cyflwyno a monitro awdurdodiadau i weithredu prosesau diwydiannol.
  • Penderfynu ar geisiadau i Amrywio Awdurdodiadau dan Adrannau 10 ac 11 o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 sy’n cynnwys newid arwyddocaol.

Gweld Dyddiadau Pwyllgor Trwyddedu Amgylcheddol

Aelodaeth

Grwp Democrat Rhyddrydol (3 cadair)

Grwp Llafur (3 cadair)

Grŵp Annibynnol Democrataidd (2 cadair)

Grwp Annibynnol Wrecsam (2 cadair)

Grwp Ceidwadwyr (1 cadair)

Grwp Annibynnol (1 cadair)

Grwp Anymochrol (1 cadair)

Plaid Cymru (1 cadair)

Cyswllt y Gwasanaethau Pwyllgorau

Sarah Royce, Rhif Ffôn: 01978 292240

yn ôl i'r brig