Bydd y Bwrdd Gweithredol yn ymgymryd â phob un o swyddogaethau’r awdurdod lleol nad ydynt yn rhan o ddyletswyddau unrhyw ran arall o’r awdurdod lleol, p’un a yw hynny yn ôl y gyfraith neu’n unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cynnwys 10 o aelodau, sef Arweinydd y Cyngor a 9 cynghorydd arall sy’n cael eu penodi’n flynyddol gan y Cyngor ar sail wleidyddol gytbwys, i adlewyrchu’r darpariaethau yn y Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989.
Mae cylch gorchwyl y Bwrdd Gweithredol wedi’i osod allan yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
Yn ei gyfarfod blynyddol ar 24 Mai 2006, adolygodd y Cyngor ei drefniadau cyfansoddiadol i ganiatáu i Arweinydd y Cyngor roi rolau arweiniol i aelodau’r Bwrdd Gweithredol. Aelodau Arweiniol y Bwrdd Gweithredol a’u cyfrifoldebau
Bwrdd Gweithredol - Aelodau Arweiniol
Gweld Dyddiadau Bwrdd Gweithredol
Peter Mullen, Rhif Ffôn: 01978 292235, neu
Jane Johnson, Rhif Ffôn: 01978 292236