Bwrdd Gweithredol - Aelodau Arweiniol

Penodwyd yr Aelodau Arweiniol canlynol gan yr Arweinydd:

Mae disgrifiadau rôl yn Rhan 2, Erthygl 2 o Gyfansoddiad y Cyngor ac mae Erthygl 7.06 y Cyfansoddiad yn disgrifio cyfrifoldebau generig Aelodau Arweiniol.

Prif gyfrifoldebau'r Aelodau Arweiniol

Amgylchedd a Chludiant

Cynghorydd David A. Bithell (Dirprwy Arweinydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Gweithredol)

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Rheoli gwastraff; yn cynnwys casglu sbwriel, strydlun, gwaredu gwastraff, minimeiddio gwastraff ac ailgylchu.
  • Diogelu’r cyhoedd; yn cynnwys iechyd amgylcheddol, diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch, safonau masnach, iechyd anifeiliaid a gwasanaeth warden anifeiliaid.
  • Cludiant; yn cynnwys priffyrdd, cynllunio diogelwch ar y ffordd, cludiant cyhoeddus a pharcio.
  • Cynnal a gwella priffyrdd a llwybrau troed, goleuadau stryd.

Strategaethau

  • Cynllun Cludiant Lleol
  • Gorfodaeth Cyfraith Bwyd
  • Strategaeth Rheoli Gwastraff

yn ôl i'r brig

Adfywiad a Rheolaeth Gorfforaethol

Cynghorydd Rodney Skelland

Bydd yr Aelod Arweiniol dros Materion Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyffredinol a gynhwysir yn Erthygl 7.06 o Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â:-

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Datblygiad ac adfywiad gwledig a threfol.
  • Twristiaeth.
  • Cefnogi busnes.
  • Marchnadoedd a gwyliau.
  • Personél yn cynnwys cyfle cyfartal ac staffio.
  • TG a thelegyfathrebu.
  • Cyfreithiol, hyfforddiant a datblygiad aelodau.
  • Gwasanaethau pwyllgor a’r Maer, cofrestru a gwasanaethau’r crwner. 
  • Rheoli risg

Strategaethau

  • Strategaeth Datblygiad Economaidd

yn ôl i'r brig

Tai a Chynllunio

Cynghorydd Mark Pritchard

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Dyraniadau tai
  • Casglu rhenti ac ôl-ddyledion
  • Tai gwag, atgyweiriadau a gwelliannau
  • Digartrefedd
  • Llety cysgodol
  • Safleoedd teithwyr
  • Galwad Gofal
  • Materion cynllunio lleol, rhanbarthol a strategaethol
  • Rheoli adeiladau a chadwraeth
  • Cynaladwyedd

Strategaethau

  • Cynllun Datblygu Lleol
  • Polisïau a Strategaethau Tai

yn ôl i'r brig

Cymunedau a Pherfformiadau - Cynghorydd Bob Dutton

Cynghorydd Bob Dutton, OBE

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Hamdden a diwylliant yn cynnwys canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon;
  • Celfyddydau ac adloniant
  • Amgueddfeydd a llyfrgelloedd
  • Datblygu chwaraeon
  • Trosedd ac anhrefn a materion perthnasol i’r heddlu
  • Cydlyniad cymunedol
  • Rheoli perfformiad

Strategaethau

  • Cynllun Gwella
  • Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn
  • Strategaeth Gymunedol

yn ôl i'r brig

Cyllid a Rheoli Asedau

Cynghorydd R. Alun Jenkins

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Agwedd gyllidol unrhyw wasanaeth, prosiect neu swyddogaeth, sefyllfa ariannol gyffredinol ac adnoddau’r cyngor, buddsoddiadau, benthyciadau a pholisïau yswiriant, materion ariannol unrhyw fenter ar y cyd, partneriaethau neu gwmnïau y mae gan y Cyngor ddiddordeb ynddynt. 
  • Archwilio yn cynnwys rheolaeth fewnol, gwrth-dwyll a rheoliadau ariannol, adolygu archwilio, cynlluniau ac apwyntio archwilwyr allanol. 
  • Rheolaeth a chaffaeliadau, gwerthu a gosod eiddo’r Cyngor. 
  • Arbed ynni a defnyddio minimeiddio yn eiddo ac asedau’r Cyngor.
  • Cytundebau a chaffaeliadau a rheoli asedau cyffredinol. 

Strategaethau

  • Cynllun Rheoli Asedau
  • Strategaeth Rheoli’r Trysorlys
  • Cynlluniau Cyllidebol
  • Rheoliadau Ariannol a Chynllun Archwilio

yn ôl i'r brig

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Cynghorydd Joan Lowe

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Asesiad gofal cymdeithasol;
  • Gofal cartref, preswyl a dydd
  • Oedolion ag anawsterau dysgu ac/neu gorfforol
  • Iechyd meddwl
  • Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
  • Hawliau lles
  • Pryd ar glud
  • Therapi galwedigaethol
  • Hybu Iechyd, materion GIG a BILl

Strategaethau

  • Strategaeth Iechyd a Lles
  • Cynllun Gofal Cymdeithasol

yn ôl i'r brig

Bydd y ddau Gyd-aelod Arweiniol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn cyflawni’r cyfrifoldebau cyffredinol a gynhwysir yn Erthygl 7.06 o Gyfansoddiad y Cyngor ar y cyd , fel a ganlyn

Arweinyddiaeth Gorfforaethol a Phlant (Ysgolion a Diogelu)

Cynghorydd Ron Davies (Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Bwrdd Gweithredol)

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Polisi strategaethol cyffredinol ac arweinyddiaeth.
  • Mynediad cwsmeriaid at wasanaethau.
  • Yr iaith Gymraeg.
  • Ysgolion a gwasanaethau i ysgolion – yn cynnwys: derbyniadau, rheolaeth ysgolion, lleoedd ysgol a rhesymoliad, perfformiad cwricwlaidd a chefnogaeth, llywodraethwyr a hyfforddiant llywodraethwyr, prydau ysgol, datblygiad proffesiynol, cludiant, TGCh a glanhau / adeiladau.
  • Rhianta Corfforaethol – yn cynnwys: mabwysiadu, maethu a phlant y gofelir amdanynt.
  • Gweithio rhyngasiantaethol – yn cynnwys: Cysylltiadau Fframwaith y Bartneriaeth ar gyfer y meysydd cyfrifoldeb perthnasol. 

Strategaethau

  • Cynllun Plant a Phobl Ifanc
  • Plant Cymorth a Chynllun Cefnogi Ieuenctid
  • Cynllun Busnes Blynyddol Bwrdd Lleol Diogelu Plant

Plant (Dysgu Ychwanegol, Teuluoedd a Chefnogaeth)

Cynghorydd Arfon Jones

Gwasanaethau a Swyddogaethau

  • Gwasanaethau Cynhwysiad Addysg yn cynnwys; Addysg Teithwyr, Saesneg fel iaith ychwanegol, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Gwaharddiadau, Presenoldeb ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).
  • Cefnogaeth i Rieni yn cynnwys: Canolfannau Teuluol a chwarae.
  • Cyfranogiad a’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnwys: Cynghorau Ysgol, Fforwm Ieuenctid.
  • Diogelu yn cynnwys: Amddiffyn plant, Asesu Plant a Theuluoedd (CAFAT) a’r Gwasanaethau Troseddu Ieuenctid.
  • Cysylltiadau rhyngasiantaethol yn cynnwys: Cysylltiadau Partneriaeth Fframwaith ar gyfer y meysydd cyfrifoldeb perthnasol. 

Strategaethau

  • Cynllun Plant a Phobl Ifanc
  • Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid
  • Cynllun Buses Blynyddol y Bwrdd Diogelu Plant Lleol.

yn ôl i'r brig

Cyswllt y Gwasanaethau Pwyllgorau

Peter Mullen, Rhif Ffôn: 01978 292235; neu

Jane Johnson, Telephone: 01978 292236

yn ôl i'r brig