Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cwestiynau Cyhoeddus

 

1. Bydd pob un o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor a'r Bwrdd Gweithredol yn cynnwys cyfle i aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau a gwneud datganiadau mewn perthynas â materion y mae gan y Cyngor a'r Bwrdd Gweithredol gyfrifoldebau swyddogaethol drostynt.

2. Ni fydd y cwestiynau/datganiadau yn para mwy na thair munud yr un, ac ni ddylai cyfanswm yr amser sydd ar gael ar gyfer cwestiynau cyhoeddus fod yn fwy na 15 munud, yn amodol ar ddoethineb cyffredinol y Cadeirydd.

3. Gallai'r Cadeirydd, ar ei (d)doethineb diamod, wrthod unrhyw gwestiynau/ddatganiadau a fynegir mewn modd amhriodol, sy'n amherthnasol neu y tu allan i gylch gorchwyl swyddogaethau'r Cyngor, yn flinderus, yn ailadroddus neu'n hir heb fod angen. Heb gyfyngu ar gyffredinolrwydd yr uchod, ni chaniateir cwestiynau am:

  • faterion barnwrol neu led farnwrol;
  • ceisiadau cynllunio, trwyddedu neu geisiadau am grantiau unigol neu apeliadau neu unrhyw benderfyniad tebyg a roddir gan y Cyngor dan statud;
  • weithiwr unigol y Cyngor a enwir;
  • materion sy'n ymwneud â phleidiau gwleidyddol;
  • materion sydd wedi'u heithrio yn rhinwedd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 neu unrhyw ddiddymiad o hynny neu ddiwygiad at hynny;
  • unrhyw fater sy'n ymwneud â chwestiwn a ofynnwyd eisoes o fewn y chwe mis diwethaf.

4. Bydd pob cwestiwn yn cael ei gyflwyno a'i ateb heb drafodaeth, ond ar ôl derbyn yr ateb, gall cwestiynydd ofyn un cwestiwn ategol, yn amodol ar ddoethineb y Cadeirydd, sy'n ymwneud â'r cwestiwn gwreiddiol neu'r ateb iddo.

5. Rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn/ddatganiad sydd i'w gyflwyno gerbron y cyfarfod yn ysgrifenedig i Brif Swyddog Cyfraith a Gweinyddiaeth y Cyngor heb fod yn hwyrach na 12 canol dydd ar y dydd Mercher cyn y cyfarfod y dylid cyflwyno'r cwestiwn/datganiad ynddo.

6. Cyflwynir y cwestiynau/datganiadau gerbron y cyfarfod yn y drefn y'i derbyniwyd gan y Prif Swyddog Cyfraith a Gweinyddiaeth.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint