"Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn rhoi gorfodaeth newydd ar yr awdurdodau lleol, yr heddlu, awdurdodau'r heddlu, yr awdurdodau iechyd a'r pwyllgorau prawf i gydweithio wrth ddatblygu a gweithredu strategaeth er mwyn delio â throsedd ac anhrefn yn eu hardal
."
Prif nod y Ddeddf yw gostwng lefelau trosedd ac anhrefn. Er mwyn symud y nod hwn yn ei flaen, mae'r Ddeddf a'r canllawiau yn nodi nifer o amcanion allweddol.
- Dod â chynrychiolwyr yr "awdurdodau atebol" (yr Heddlu a'r Awdurdod Lleol) at ei gilydd mewn partneriaeth a dod ag ymgynghorwyr statudol (Awdurdod yr Heddlu, yr Awdurdod Iechyd a'r Pwyllgor Prawf) at eu gilydd er mwyn symud y gwaith o ddelio â throsedd ac anhrefn lleol yn ei flaen yn effeithiol.
- Rhoi cyfrifoldeb ar yr Heddlu a'r Awdurdod Lleol i wneud archwiliad ar y cyd o drosedd ac anhrefn a chyhoeddi'r archwiliad hwnnw. Ymgynghori'n lleol ar sail canlyniadau'r archwiliad.
- Datblygu a gweithredu Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn leol yn seiliedig ar brif ganlyniadau'r archwiliad a'r sylwadau a'r safbwyntiau a gafwyd yn sgil ymgynghori.
- Gwneud trefniadau er mwyn gwerthuso'r Archwiliad a'r Strategaeth yn flynyddol ac er mwyn ailadrodd y broses gyfan bob tair blynedd.
Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn
Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn - fersiwn Word 1.07Mb ![]()
Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn - fersiwn PDF 670Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn 2002-2005
Cynnwys
Cyflwyniad
Cynnydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Nodi'r Opsiynau Blaenoriaethol 2002-05
Cyfnewid Gwybodaeth
Uchelgeisiau Strategol
Atodiad
1 Lleihau Trosedd ac Anhrefn Wrecsam - Strwythur Strategol
2 Manylion am y Strwythur Strategol







