Trosglwyddo i Deledu Digidol ar DdodCaiff y broses o drosglwyddo o deledu analog i ddigidol ei chwblhau yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar 28 Hydref 2009 pan fydd trosglwyddydd Moel y Parc yn diffodd ei signal teledu analog. Bydd Granada, sydd hefyd ar gael mewn rhai ardaloedd ar draws gogledd-ddwyrain Cymru yn dechrau ei phroses drosglwyddo ar 4 Tachwedd 2009.
Bydd llawer ohonoch eisoes yn mwynhau teledu digidol drwy’ch erial (Freeview), drwy loeren, gyda chebl mewn rhai ardaloedd neu drwy fand eang. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod pob set deledu a recordydd rydych yn bwriadu eu defnyddio ar ôl y broses drosglwyddo’n gydnaws â signalau digidol.
Gyda theledu digidol gall bron pob cartref dderbyn tua 20 o'r sianeli Freeview mwyaf poblogaidd, yn hytrach na’r pum sianel sydd ar gael ar hyn o bryd ar deledu analog. Bydd llawer o gartrefi yn gallu derbyn mwy na 40 o sianeli.
Mae gwybodaeth a chyngor o ran y broses drosglwyddo ar gael ar wefan Digital UK (www.digitaluk.co.uk) lle y gallwch weld eich dewisiadau o ran trosglwyddo i ddigidol. Os nad oes gennych gyfrifiadur neu fynediad at y rhyngrwyd, mae gwybodaeth hefyd ar gael dros y ffôn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ffonio llinell gymorth Digitial UK ar 08456 50 50 50. Mae cymorth a chyngor ar gael yn Gymraeg drwy ffonio 08458 48 48 48.
Cynllun Cymorth TrosglwyddoCrëwyd y Cynllun Cymorth Trosglwyddo gan y Llywodraeth a chaiff ei gynnal gan y BBC. Ei bwrpas yw gwneud teledu digidol yn hawdd i bobl hŷn ac anabl drwy droi un o’u setiau teledu’n deledu digidol wrth i’r broses o drosglwyddo i deledu digidol nesáu yn eu rhanbarth.
Cynigir cymorth i bobl os ydynt yn 75 oed neu’n hŷn, ac wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall, yn gymwys i gael rhai mathau o fudd-daliadau anabledd neu wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy. Mae tua hanner miliwn o bobl yn gymwys i gael y Cynllun Cymorth Trosglwyddo yng Nghymru.
Cynigir blwch pen set Freeview i bobl sy’n gymwys i’w derbyn yng Nghymru i’w osod ar un o’u setiau teledu, am bris gostyngol o £40, neu am ddim os ydynt yn derbyn budd-daliadau incwm hefyd. Bydd yr offer yn eu galluogi i weld mwy na 20 o sianeli gan gynnwys pob sianel gwasanaeth cyhoeddus.
Mae’r cymorth hefyd yn cynnwys canllawiau ar sut i ddefnyddio’r offer, gwiriad erial ac uwchraddiad os bydd angen i’r rheiny sy’n berchen ar eu herialau eu hunain, a Llinell Gymorth i ffonio am gyngor wrth iddynt arfer â’r offer.
Os bydd pobl gymwys na allant gael teledu digidol drwy erial, cynigir offer lloeren o freesat gan y BBC ac ITV ar yr un telerau iddynt.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i’r ddolen ganlynol www.helpscheme.co.uk
Gwybodaeth a Chyngor gan Digital Outreach LtdMae Digital Outreach Ltd ar gael i bobl nad ydynt yn gymwys i gael cymorth dan Gynllun Cymorth Trosglwyddo, ond a allai gael budd o wybodaeth a chyngor ychwanegol.
Mae Digital Outreach Ltd yn gweithio’n agos gyda Chynllun Cymorth Trosglwyddo a Digital UK i roi gwybodaeth ddiduedd am yr hyn sydd angen i bobl ei wneud er mwyn paratoi i drosglwyddo i deledu digidol, a phryd mae angen iddynt wneud hynny.
Mae Digital Outreach yn galw ar elusennau lleol yn ardal pob trosglwyddydd, gan roi’r adnoddau iddynt i gefnogi eu cymunedau lleol wrth drosglwyddo drwy:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i’r ddolen isod