Bellach mae rhaglen am ddim ar gael ar gyfer y gwasanaeth Golwg Lleol sy’n addas ar gyfer iPhone, iPad ac iPod Touch. Gellir ei lawrlwytho o’r iTunes App Store (chwilio am Golwg Lleol "Looking Local").
Un o brif elfennau’r rhaglen ydy’r gallu i’n hysbysu am faterion fel sbwriel wedi’i adael, graffiti a thyllau yn y ffordd.
Rydych chi’n medru mapio lle mae’r broblem, uwchlwytho llun a sylwadau a’u hanfon atom ni.

Cyfle i hysbysu am faterion fel cerbydau wedi’u gadael, sbwriel wedi’i daflu, graffiti, tyllau yn y ffordd, nam ar oleuadau stryd a rhagor.
Gallwch fynd at Looking Local o unrhyw ffôn ddeallus sydd â mynediad at y Rhyngrwyd. Anfonwch eich cod post mewn neges destun i 61061, a bydd dolen yn cael ei hanfon yn ôl atoch, gan roi mynediad uniongyrchol i chi at eich gwasanaethau lleol, ynghyd â gwybodaeth gan NHS Choices, y Ganolfan Byd Gwaith a Transport Direct.
www.lookinglocal.gov.uk/wrexhamcbc
Sky TV
Wii neu PC
Am fwy o wybodaeth am deledu digidol a throsiad gwasanaethau teledu analog