Strategaeth Llety a Chefnogaeth Tai i Bobl Hŷn

Strategaeth Llety a Chefnogaeth Tai i Bobl Hŷn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan weithio ar y cyd â phartneriaid yn y sectorau iechyd a gwirfoddol, wedi cytuno ar strategaeth sy’n edrych yn benodol ar anghenion llety â chefnogaeth tai pobl hŷn.

Datblygwyd y strategaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n darparu gweledigaeth ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf, ynghyd â chynllun gweithredu ar gyfer y tair blynedd nesaf

Mae gan y strategaeth pum prif faes, sef:

1. Llety

Mae’r strategaeth yn gweld pwysigrwydd llety cysgodol yn parhau ond mae’n nodi bod angen uwchraddio’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd er mwyn bodloni anghenion pob hŷn heddiw. Yn ogystal, mae’n nodi bod angen datblygu tai â gofal ychwanegol a fydd yn darparu mwy o gefnogaeth i bobl sy’n byw mewn llety arbennig i bobl hŷn.

2. Cynnal a chadw (Ansawdd bywyd)

Mae’r strategaeth yn nodi’r pryderon sydd gan bobl hŷn am gael cymorth i gynnal a chadw eu cartrefi ac yn enwi prosiectau i helpu yn hyn o beth. Mae hefyd yn nodi pryderon am y problemau mae pobl yn eu cael wrth addasu eu cartrefi os oes ganddynt anableddau, ac mae’n bwriadu gwneud y broses hon yn haws ac yn gyflymach.

3. Cefnogaeth

Rhoddir ystod o gynigion i wella’r gefnogaeth a roddir i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn cynnwys datblygu gwell gwybodaeth; ymchwilio i p’un a ellir datblygu cynllun wardeiniaid i bobl nad ydynt yn byw mewn tai cysgodol; a gwella ein gwasanaethau ymateb brys.

4. Technoleg

Mae’r strategaeth yn cydnabod bod posibilrwydd mawr i dechnoleg helpu i gefnogi pobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain (e.e. canfodyddion i roi rhybudd os bydd rhywun yn disgyn neu’n crwydro). Mae angen datblygu hyn ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

5. Materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb

Mae’r strategaeth yn nodi bod amrywiaeth eang o bobl hŷn yn byw yn ein cymdeithas a bod ganddynt wahanol anghenion gan ddibynnu ar eu tras ethnig, eu diwylliant, eu tueddfryd rhywiol a’u crefydd. Mae angen i ni wneud mwy i fodloni’n anghenion hyn, yn enwedig gan fod y boblogaeth leol o bobl hŷn yn newid.

Am gopïau o’r cynllun datblygu cyflawn neu i ddarganfod mwy am y Strategaeth i Bobl Hyn, cysylltwch â:

Swyddog Cynllunio a Datblygu’r Strategaeth i Bobl Hyn,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY

Ffôn: 01978 297064
Ebost: ops@wrexham.gov.uk

Strategaeth Llety a Chefnogaeth Tai i Bobl Hŷn

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Strategaeth Llety a Chefnogaeth Tai i Bobl Hŷn - Fersiwn PDF 466Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig