Côd Rheolaeth Gorfforaethol

Mae’r Cod hwn yn cyflwyno agwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam at gyflawni a chynnal llywodraethu corfforaethol da. Mae’n dilyn canllawiau a luniwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr yr Awdurdodau Lleol (SOLACE), ac mae hefyd yn ystyried ‘Egwyddorion Llywodraethu sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd’ Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn ei natur, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (y Cyngor) yn sefydliad cymhleth sy’n effeithio ar fywydau holl ddinasyddion y cylch. Yn ogystal â darparu amrywiaeth o wasanaethau, mae hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae nodau a blaenoriaethau’r Cyngor yn adlewyrchu’r cyfrifoldebau hyn.

Mae’r Cyngor yn gweld Llywodraethu Corfforaethol fel gwneud y pethau iawn, yn y ffordd iawn, ar gyfer y bobl iawn mewn ffordd amserol, gynhwysol, agored, didwyll ac atebol. Mae’n cynnwys y cyfundrefnau a phrosesau, a hefyd y diwylliant a gwerthoedd, sy’n cyfarwyddo a rheoli’r Cyngor a sut mae’n atebol i’w ddinasyddion ac yn ymwneud â hwy.

Gyda llywodraeth gref, agored ac ymatebol mae’r Cyngor yn gallu rhoi dinasyddion yn gyntaf trwy ddilyn ei nodau a blaenoriaethau’n effeithiol, a thrwy gael peirianwaith priodol at reoli perfformiad a risg yn sail iddynt. Er mwyn cynnal hyder dinasyddion, rhaid i’r peirianwaith hwn fod yn gadarn ac i’w weld yn gadarn.

Egwyddorion Llywodraethu

Mae’r Cyngor yn gweithredu trwy fframwaith llywodraethu sy’n tynnu ynghyd ei gyfrifoldebau deddfwriaethol a phrosesau rheoli gyda chwech o egwyddorion llywodraethu creiddiol sy’n seiliedig ar y rhai a ddatblygwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Lywodraeth Dda mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2004. Y rhain yw:

  1. Canolbwyntio ar ddiben yr awdurdod ac ar ganlyniadau i’r gymuned a chreu a gweithredu gweledigaeth ar gyfer y cylch lleol;
  2. Aelodau a swyddogion yn cydweithio tuag at ddiben cyffredin gyda swyddogaethau a rhannau a ddiffiniwyd yn eglur er mwyn cael y canlyniadau gorau posibl i ddinasyddion;
  3. Hyrwyddo gwerthoedd i’r awdurdod a dangos gwerthoedd llywodraeth dda trwy gynnal safonau ymddygiad uchel; 
  4. Gwneud penderfyniadau cytbwys ac agored sy’n destun archwilio effeithiol a rheoli risg er mwyn meithrin arloesi;
  5. Datblygu cymhwyster a gallu aelodau a swyddogion i fod yn effeithiol; a
  6. Gweithio’n agos gyda phobl leol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau atebolrwydd cadarn i’r cyhoedd.

Mae’r Cyngor yn ymrwymo ei hun i bob un o’r egwyddorion hyn. Dengys yr atodlen sut y caiff hyn ei gyflawni.

Côd Rheolaeth Gorfforaethol

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Côd Rheolaeth Gorfforaethol - Fersiwn Word 125Kb

Côd Rheolaeth Gorfforaethol - Fersiwn PDF 73Kb

Côd Rheolaeth Gorfforaethol - Fersiwn Testun Plaen 246Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig