Mae pob un ohonom yn cael gwasanaethau dyddiol, a hynny’n ddiarwybod weithiau, gan y llu o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus sydd yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam!
Er enghraifft, efallai ein bod yn cerdded y plant i ysgol, yn gwneud apwyntiad i weld y deintydd ac yn mynd am apwyntiad fel claf allanol yn yr ysbyty. Efallai y byddwn yn sgwrsio â swyddog cymorth cymunedol lleol yr heddlu ac yn edrych ar y rhyngrwyd am wybodaeth am larymau mwg. Efallai ein bod wedi cofrestru ar gwrs nos yn y coleg neu gwrs rhan amser yn y brifysgol, neu hyd yn oed yn gwneud ychydig o waith gwirfoddol.
Fel y gallwch weld, byddai bywyd cryn dipyn yn anoddach heb y gwasanaethau a’r cyfleoedd hyn. Felly, pwy yw’r holl sefydliadau cyfrannog?
Y sefydliadau a’r partneriaethau hyn sydd yn llunio'r hyn a adwaenir ar y cyd fel Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl) Wrecsam. Gwella gweithio ar y cyd, ar draws ei sefydliadau partner, er mwyn i ni fedru darparu gwasanaethau sydd hyd yn oed yn well i bobl a chymunedau Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw nod y BGLl.
Diffinio’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a gosod targedau hir dymor a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl, yw un o brif swyddogaethau’r BGLl. Adwaenir hynny fel Strategaeth Gymunedol Wrecsam.
Y canlynol yw ein gweledigaeth ar gyfer y deuddeng mlynedd nesaf:
'Gwella ansawdd bywyd pawb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam'
Wrth wneud hyn rydym yn ymrwymo i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn fan lle y mae pobl yn cael dweud eu dweud am y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu ar eu cyfer, a bod eu sylwadau, eu hanghenion a’u dyheadau yn cael eu hystyried.
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon i bob person a chymuned rŵan ac yn y dyfodol, ein nod yw gwneud Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn lle sydd yn:
Mae’r Strategaeth Gymunedol yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â phob un o’r themâu hyn ac yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud i’w cyflawni.
Mae’r tudalennau sydd yn dilyn yn rhoi peth gwybodaeth am bob un o’r themâu hyn ac yn disgrifio’r camau y byddwn yn eu gweithredu i’w cyflawni. (Mae rhagor o wybodaeth i’w gael ar y tudalennau sy’n dilyn).
Mae’r Strategaeth Gymunedol ar gael i’w lwytho i lawr yn y fformat canlynol:
Strategaeth Gymunedol - Fersiwn PDF 29.4MB ![]()
Mae yna hefyd daflen crynodeb ar gael ar gyfer pob un o’r themâu, a gellir eu llwytho i lawr isod:
Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Gwella ansawdd bywyd pawb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam - PDF format 3.7MB ![]()
Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Lle sy'n economaidd ffyniannus - PDF format 3.2MB ![]()
Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Lle diogel - PDF format 3.2MB ![]()
Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Lle sy'n galluogi pobl i gyrraedd eu potensial llawn - PDF format 2.9MB ![]()
Bwrdeisref Sirol Wrecsam: Lle sy'n gwarchod ei amgylchfyd adeiledig a naturiol - PDF format 2.8MB ![]()
Bwrdesidtref Sirol Wrecsam: Lle sy'n gofalu am iechyd pobl - PDF format 3.0MB ![]()
Wrecsam Ifanc: Gwella ansawdd bywyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam - PDF format 1.5MB ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.