Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Ein blaenoriaethau strategol 2017 - 2022

Wrecsam Gynaliadwy

Mae datblygu cynaliadwy yn ymwneud â sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni – gan ganolbwyntio ar wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardal - heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain. Yn Wrecsam rydym yn canolbwyntio ar dair thema cynllunio strategol – Economi, Pobl a Lle. Mae’r rhain yn cael eu galluogi drwy gyfrwng thema gorfforaethol y Sefydliad – creu sefydliad effeithlon ac effeithiol sy’n gallu cynnal lles lleol yn y ffordd orau bosibl.

Mae’r themâu cynllunio yma yn neilltuol ac fe’u hadlewyrchir yn strwythurau gwleidyddol a sefydliadol y Cyngor, ond maent hefyd yn rhyngddibynnol ac ni ellir eu hystyried yn annibynnol ar ei gilydd. Mae gwybod am beth sydd wedi gweithio yn Wrecsam yn hysbysu’r themâu hyn – y dulliau a’r ymyriadau sy’n gweddu â diwylliant Wrecsam a’r cymunedau sy’n rhan ohoni.

Dull Wrecsam o Weithio             

Yr her yw canfod y ffordd orau o fodloni gofynion cynyddol y presennol a’r dyfodol gan ystyried y byd cyfnewidiol ac anrhagweladwy sydd ohoni, adnoddau naturiol y mae pen draw iddynt, a llai o gyllid ar gyfer y sector cyhoeddus.  Mae’n rhaid i ni fod yn realistig ynghylch beth ellir ac na ellir ei wneud, a bod yn ymwybodol o’r risgiau a’r cyfleoedd mewn perthynas â’r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud.  A yw’r ffordd yr ydym yn cynllunio a darparu gwasanaethau yn galluogi unigolion a chymunedau i wneud mwy? A ydym yn gwneud y mwyaf o fuddion posibl - ac yn lleihau’r niwed posibl - y camau a gymerir gan y Cyngor?  Po leiaf yr ydym yn gallu ei wneud, y pwysicaf yw bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cael ei wneud yn effeithiol.   

Er mwyn ein cynorthwyo wrth wneud y penderfyniadau hyn, rydym wedi datblygu set o egwyddorion cynllunio sy’n seiliedig ar y rhai a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddfau eraill (gweler Atodiad 3), ac sydd wedi’u geirio mewn ffordd sy’n adlewyrchu Wrecsam. 

Ein Hegwyddorion Cynllunio         

Wrth gynllunio gwasanaethau byddwn yn ystyried lefel yr angen yn lleol a’r adnoddau sydd ar gael i ymateb i hynny.  Yna byddwn yn ystyried y chwe egwyddor cynllunio yr ydym wedi eu diffinio er mwyn ein helpu i gynllunio a galluogi’r gwasanaethau mwyaf teg, effeithiol a chynaliadwy posibl, gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Atal sy’n cael y flaenoriaeth - atal problemau rhag codi. Peidiwch â chreu problemau newydd - p’un ai drwy atal digartrefedd, drwy roi cyngor ar ddyled, lleihau tlodi drwy gymorth cyflogaeth, atal niwed i’r amgylchedd naturiol, neu’n syml drwy sicrhau bod tasg yn cael ei gwneud yn iawn y tro cyntaf, gan osgoi cwynion a’r baich a grëir o ganlyniad i fethiant.

Blaenoriaethu’r mwyaf bregus – lleihau amrywiadau amhriodol mewn deilliannau drwy ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Deall pa grwpiau ac unigolion sydd â’r lleiaf o allu i wrthsefyll newidiadau negyddol posibl - y capasiti neu’r adnoddau lleiaf i ymdopi. Gallai hynny olygu pobl â nodweddion gwarchodedig penodol, rhai sy’n byw ar neu o dan y ffin tlodi, rhai o ardaloedd neu gynefinoedd penodol a rhywogaethau sy’n wynebu risg yn lleol neu’n genedlaethol.

Cynllunio ar gyfer y tymor hir – meddwl am genedlaethau’r dyfodol ac am ein hadnoddau naturiol. Ystyried effaith hirdymor ein penderfyniadau - yr effaith dros 25 mlynedd a mwy. Cynllunio a buddsoddi ar gyfer y dyfodol ac ystyried yr effaith bosibl ar ein hadnoddau naturiol a bioamrywiaeth, sicrhau cydnerthedd i wynebu heriau yn y dyfodol megis newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd.

Ymgynghori â phobl leol a’u cynnwys yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau. Dim ymgynghori yn unig â phobl ynghylch sut ydym yn cynllunio a darparu gwasanaethau, ond ymgysylltu â hwy hefyd er mwyn darparu gwasanaethau a gynhyrchir ar y cyd, neu er mwyn ei gwneud yn haws i bobl helpu eu teuluoedd, cymdogion a nhw eu hunain.

Integreiddio a chydweithredu – gyda chydweithwyr; gyda phartneriaid. Uno gwasanaethau a phenderfyniadau ar draws timau ac adrannau’r Cyngor fel bod gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd ac nad yw cwsmeriaid yn wynebu rhwystrau sefydliadol. Byddwn yn ceisio gweithio’n agosach â phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, a byddwn yn cydweithredu pan fo achos busnes i wneud hynny.

Yr Iaith Gymraeg – mae gan Gymru ddwy iaith swyddogol, y Gymraeg a’r Saesneg, a dylai gwasanaethau a gwybodaeth fod ar gael yn y ddwy iaith fel ei gilydd. Iaith fusnes fewnol y Cyngor yw Saesneg, ond bydd yr holl wasanaethau a gwybodaeth yr ydym yn eu darparu i bobl leol ar gael yn y ddwy iaith fel ei gilydd.

Amcanion Lles

Drwy ein hamcanion lles byddwn yn canolbwyntio ar wella lles y bobl sy’n byw yn, gweithio yn neu’n ymweld â Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Byddwn yn barnu pa mor dda yr ydym yn mynd rhagom i alluogi gwell lles drwy fonitro’r dangosyddion a nodwyd yn erbyn pob amcan yn y cynllun hwn. 

Nid yw’r amcanion a’r dangosyddion hyn o fewn rheolaeth y Cyngor yn gyfan gwbl, a gall blaenoriaethau a pherfformiad partneriaid, rhanddeiliaid a ffactorau lleol, cenedlaethol a hyd yn oed byd-eang eraill ddylanwadu arnynt.  Po fwyaf y mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar wella deilliannau, y pwysicaf fydd gweithio mewn partneriaeth ar draws yr holl sectorau.  Rhan allweddol o hyn fydd adeiladu ar lefelau cymorth presennol er mwyn galluogi ac annog mwy o bobl leol a cymunedau i wirfoddoli a mabwysiadu gwasanaethau, er enghraifft drwy ddod yn ffrind i’w parc lleol neu godi arian ar gyfer yr ysgol leol.  

Rydym yn cymharu perfformiad y Fwrdeistref Sirol yn erbyn ardaloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru neu’r DU pan fo gennym y cyfle i wneud hynny.  Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi ein perfformiad a’n targedau mewn cyd-destun ac er mwyn ein helpu i ddeall yn well yr effaith y mae’r Cyngor a’n partneriaid yn ei greu.

Pennu Targedau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymdrechu i sicrhau bod pobl leol yn derbyn gwasanaethau o ansawdd da sy’n darparu gwerth am arian wrth i’r Cyngor dderbyn llai o gyllid.  Rydym yn barnu llwyddiant y gwasanaethau hyn drwy bennu a monitro dangosyddion deilliannau.  Mae targedau dangosyddion deilliannau yn cael eu pennu ar un o bedair lefel, yn seiliedig ar berfformiad yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Mae’r Cynllun hwn yn pennu targedau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.  Mae’r Cyngor yn parhau i ailsiapio gwasanaethau er mwyn wynebu’r her ariannol sydd o’n blaenau gan flaenoriaethu’r elfennau mwyaf bregus.  Wrth i benderfyniadau gael eu gwneud i derfynu neu ailwampio gwasanaeth, mae’n debygol y bydd mwy o feysydd gwasanaeth yn cyflwyno safonau gwasanaeth sy’n is na’r hyn ddylai lefel perfformiad fod.  Gall gweithredoedd a gwasanaethau effeithio’n wahanol ar wahanol grwpiau o bobl, a phan fo’n bosibl rydym yn casglu ac yn dadansoddi data ar wahanol effeithiau.

Bob blwyddyn byddwn yn adolygu lefel y gwelliant a gyflawnir ar draws yr holl ddeilliannau a glustnodwyd, sut mae’n cymharu yn erbyn y targedau yr ydym wedi eu pennu ar ein cyfer ein hunain, a sut mae’n cymharu yn erbyn perfformiad eraill.  Mae’r adolygiad hwn yn darparu gwybodaeth graffig a naratif ar dueddiadau perfformiad ar gyfer holl ddangosyddion y cynllun, a pherfformiad yn erbyn y cyfartaledd yng Nghymru pan fo hynny ar gael.