Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Cynllun y Cyngor - Thema strategol: Yr economi

Thema Corfforaethol: Economi

Cynnal economi gynaliadwy a llewyrchus

Mae pobl yn siarad am economi fyd-eang am reswm. Efallai bod busnesau Wrecsam yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i gwmnïau neu unigolion y drws nesaf iddynt neu filoedd o filltiroedd i ffwrdd, gyda chymorth staff sydd efallai wedi cymudo o Riwabon, Runcorn neu’r Rhyl. Nid yw ffiniau awdurdodau lleol yn gwneud fawr o wahaniaeth; mae angen i ni uno gyda’n cymdogion er mwyn sicrhau bod yr ardal yn well lle i fusnesau, oherwydd mae cyfleoedd cyflogaeth yn creu cyfoeth ac yn lleihau tlodi ac anghydraddoldeb. Mae hynny’n golygu buddsoddi mewn sgiliau, mewn isadeiledd - gwella cysylltiadau trafnidiaeth a band eang - ac mewn harneisio cyfleoedd sy’n deillio o brosiectau pwysig rhanbarthol, o Garchar y Berwyn yn Wrecsam, i botensial Wylfa B ar Ynys Môn, a gwneud y mwyaf o botensial Gogledd Cymru fel rhan o Bwerdy’r Gogledd er mwyn gwella cysylltedd â gweddill y DU a marchnadoedd byd-eang.

Mae Wrecsam, ynghyd â phum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru, y sector preifat, addysg uwch a phellach a thrydydd sectorau, wedi ymuno â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac wedi mabwysiadu gweledigaeth o dwf ar gyfer economi Gogledd Cymru hyd at 2035. Y nod yw gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru, cefnogi a chadw pobl ifanc yn yr ardal, mynd i’r afael â diffyg gwaith, cefnogi a galluogi buddsoddiad y sector preifat yn yr ardal er mwyn hybu allbwn economaidd ac er mwyn creu swyddi newydd. Bydd y weledigaeth yn tanategu blaenoriaethau buddsoddi yn y dyfodol ar draws yr ardal mewn gwelliannau isadeiledd, datblygu sgiliau a chymorth i fusnesau. Yn gyffredinol, y weledigaeth yw creu cynnydd o 2.8% y flwyddyn yng ngwerth yr economi fel ei fod yn cyrraedd £20 biliwn erbyn 2035 a chreu dros 120,000 o swyddi newydd. Bydd yna nifer o wahanol ffyrdd i bartneriaid geisio gwireddu’r weledigaeth hon yn cynnwys deliau twf ar gyfer Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Warrington - ac mae’r ddau yma’n cefnogi buddsoddi allweddol yn Wrecsam.

Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, mae’r Cyngor hefyd yn bartner yng Nghynghrair Mersi a Dyfrdwy (MDA). Deilliodd MDA o gydnabod cydfuddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar draws Gorllewin Swydd Gaer, Wirral ac ardal Gogledd Ddwyrain Cymru. Ffurfiwyd y Gynghrair yn Ebrill 2007, ac yn ychwanegol at Wrecsam, mae’n cynnwys awdurdodau lleol Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir y Fflint a Wirral, yn ogystal â Phrifysgol Caer, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Mersey Travel. Mae ardal MDA yn un anarferol yn y DU gan ei bod yn brif ardal economaidd a rennir gan ffin genedlaethol. Yn y ardal ceir amrywiaeth eang o fusnesau, economi metro, yn ogystal â chefn gwlad eang, parth cymudo arfordirol, ac mae’n un o’r prif gyfranwyr i economi’r DU. Mae partneriaeth MDA yn cydnabod bod yr ardal yn cynrychioli is-ardal economaidd unigol sydd â phoblogaeth sy’n agos at un miliwn. Mae partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd ar fuddiannau strategol cyffredin er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r ardal, ac yn hwyluso ymagwedd gydlynol tuag at faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae’r MDA yn ymdrin â materion strategol trawsffiniol sy’n effeithio ar yr ardal gyfan fel nad yw gweithgaredd lleol yn cael ei ddyblygu, ac er mwyn sicrhau ei fod yn creu gwerth ychwanegol.

Bydd economi gryfach yn golygu mwy o gyfleoedd mewn perthynas â swyddi a hyfforddiant, ond nid yw pawb yn gallu cael mynediad cyfartal iddynt. Cyflogaeth o ansawdd da yw’r ffordd orau o hyd o ddileu tlodi, ond mae tlodi mewn gwaith yn cynyddu. Yn ogystal â sicrhau bod cyfleoedd o ansawdd da yn bodoli, mae angen i ni gynorthwyo pobl i gael y sgiliau priodol, y gefnogaeth a’r rhinweddau er mwyn elwa, p’un a bod hynny yn golygu cyfeirio pobl yn ôl i fyd dysgu fel y cam cyntaf ar daith yn ôl i waith, sicrhau bod cyrsiau parodrwydd i weithio ar gael, neu hyrwyddo gofal plant fforddiadwy.

Amcanion Lles yr Economi

E1 – Annog Pobl i fyw, gweithio, dysgu, ymweld a buddsoddi yma

Po fwyaf o bobl sydd eisiau gwella eu bywydau, gwireddu eu huchelgeisiau neu wario arian yma, y mwyaf cyfoethog fydd y Fwrdeistref, a bydd safon bywyd yn well i bawb. Fodd bynnag, mae angen i ni ddatblygu’r amgylchedd ffisegol priodol a’r ddelwedd neu’r proffil priodol i’r ardal er mwyn annog hynny.

Rydym yn buddsoddi yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn:

Bydd lle sy’n ddeniadol i drigolion yn denu busnesau a buddsoddiad a bydd yn lle y bydd ymwelwyr yn dymuno bod. Mae’n ymwneud â ffordd o fyw. Mae darparu economi fywiog a chynhwysol sydd â chymysgedd o fusnesau a gweithgareddau hamdden yn allweddol mewn perthynas â chyflawni’r deilliant hwn, er mai un o’r prif rwystrau rhag cefnogi twf busnes a denu mewnfuddsoddiad o hyd yw cyflenwad gwael o dir priodol ar gyfer safleoedd datblygu ac adeiladau addas.

Ein gweledigaeth hirdymor yw: cael ein cydnabod am ein gwelliannau yn y Fwrdeistref Sirol drwy geisio creu twf economaidd yn barhaus. Bydd hynny’n cael ei dystio drwy adfywio canol tref Wrecsam a’r cymdogaethau o’i chwmpas drwy gyflenwi tai newydd a thai gwell, creu swyddi, busnesau a thyfu sectorau diwydiannau celfyddydol a chreadigol er mwyn atgyfnerthu ei sefyllfa ranbarthol a sicrhau mai dyma’r lle y mae pobl yn dewis byw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddo.

Yn y tymor byr, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Yn y tymor canolig hyd at y tymor hir, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Byddwn yn monitro cynnydd drwy:

Deilliant Dangosydd Cymhariaeth
(Wrecsam diwedd blwyddyn 2015/16)
Wrecsam
2016/17 (Q2)
Targed 2017/18
Safon Gwasanaeth: Cyfanswm gwerth buddsoddi mewn adfywio yn Wrecsam4 £7.35m Adroddiad Mehefin 2017 Targedau penodol i gael eu pennu pan fo data 2016/17 ar gael
Gwella: Gwerth gwariant ymwelwyr ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam £100.8m Adroddiad Mehefin 2017 Targedau penodol i gael eu pennu pan fo data 2016/17 ar gael
Gwella: Nifer ymwelwyr â Chanol Tref Wrecsam Ni fesurwyd yn 2016/17 Adroddiad Mehefin 2017 Cynnydd o 2%
Cynnal: Cyfraddau gwacter:
a) pob eiddo manwerthu yng nghanol tref Wrecsam
b) pob eiddo manwerthu yng nghanol tref Wrecsam sy’n eiddo i’r Cyngor
a) 10.0% a) 15.84%
b) 2.8%
Aros yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol

4 Mae’r ffigwr hwn wedi’i goladu o gyllid adfywio a dderbynnir gan gyrff allanol megis Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri, ond buddsoddiad cyfalaf hefyd gan y Cyngor, y daw peth ohono o dderbynebau cyfalaf, a fuddsoddir mewn adfywio yn y Fwrdeistref Sirol.

E2 – Cynorthwyo busnesau i leoli eu hunain yma a thyfu yma

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae nifer o fusnesau yn Wrecsam wedi dechrau yn llwyddiannus, wedi buddsoddi neu ail-fuddsoddi yn y Fwrdeistref Sirol. Mae ein tîm cymorth i fusnesau wedi chwarae rhan allweddol wrth feithrin yr economi leol yn Wrecsam - helpu busnesau i ail-leoli a dechrau yma, a chreu swyddi, ond ailstrwythurwyd ffocws y tîm yn sylfaenol, gan symud o ddarparu cymorth busnes yn uniongyrchol i’w alluogi. Mae’r newid wedi cael ei ysgogi gan yr angen i dorri ar gyllidebau. Rydym yn mynd ati i ddefnyddio ein hadnoddau cyfyngedig yn effeithiol er mwyn targedu’r gymuned fusnes a bodloni eu hanghenion yn uniongyrchol.

Er bod yn tîm yn llai, mae’r ffocws yr un fath, a bydd yn parhau i dargedu cynnydd o ran nifer a safon busnesau newydd yn y Fwrdeistref Sirol, annog busnesau i fuddsoddi, cynyddu cyfraddau deiliadaeth ar draws yr eiddo masnachol sy’n eiddo i’r Cyngor, ac yn y blaen. Mae’r newid hefyd yn gyfle da i ni roi ail wynt i’n cydweithrediad ag asiantaethau eraill, yn cynnwys darparwyr hyfforddiant, colegau, prifysgolion, llywodraeth ganolog a phartneriaid eraill. Mae hyn i gyd yn unol â phwyslais newydd y tîm ar gydlynu a galluogi cymorth i fusnesau, yn hytrach na’i ddarparu’n uniongyrchol.

Ein gweledigaeth hirdymor yw: dylanwadu a chreu’r amodau i fusnesau allu datblygu ac ehangu. Darparu amgylchedd ble gall busnesau newydd a sefydledig weithredu mewn economi uwch dechnegol sydd wedi ei galluogi’n ddigidol, gan gofleidio agwedd weddnewidiol technoleg ddigidol er mwyn sicrhau economi gynaliadwy, ac ymateb yn lleol i dwf poblogaeth a safle strategol yn y DU er mwyn creu twf busnes a chyflogaeth.

Yn y tymor byr, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Byddwn yn monitro ein llwyddiant drwy:

Canlyniad Dangosydd
Cymhariaeth
(Wrecsam diwedd blwyddyn 2016/17)
Wrecsam 2016/17 (Q2) Targed 2017/18
Gwella: Nifer y busnesau newydd a gofnodwyd 64 18 65
Safon Gwasanaeth: Canran yr eiddo masnachol a feddiannir 85% 83% 80%
Safon Gwasanaeth: Nifer yr ymholiadau cymwys ynghylch buddsoddi5 381 105 200
Safon Gwasanaeth: Nifer y busnesau a gofnodwyd6 9,775 Addroddiadau Q1 Dros 9,500
Ymestyn: Nifer y swyddi gros a grëwyd pan fu’r Cyngor yn ymwneud â hynny’n uniongyrchol 391 180 8007

5 Mae’r rhain yn ymholiadau ynghylch buddsoddi o du allan i’r Fwrdeistref Sirol nad ydynt yn ymholiad cyffredinol yn unig, ond gan barti â buddiant sy’n bwriadu ail-leoli.

6 Llywodraeth Cymru sy’n cynhyrchu’r ffigwr hwn. Ni ellir ei gymharu â’r ffigyrau a adroddwyd mewn Cynlluniau blaenorol gan y Cyngor.

7 Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys 500 o swyddi parhaol, nad ydynt yn perthyn i’r diwydiant adeiladu, y disgwylir y byddant yn cael eu creu yn sgil y carchar newydd.

E3 – Helpu i daclo tlodi

Gellir dweud bod unigolion, teuluoedd a grwpiau sy’n rhan o’r boblogaeth mewn tlodi pan nad oes ganddynt yr adnoddau i gaffael y mathau o ddiet, i gymryd rhan mewn gweithgareddau, a meddu ar yr amodau byw, adnoddau a’r amwynderau sy’n arferol, neu o leiaf a anogir neu a gymeradwyir yn gyffredinol yn y cymdeithasau maent yn byw ynddynt. Mae eu hadnoddau mor ddifrifol is na’r lefel a ddisgwylir gan yr unigolyn neu deulu cyfartalog, fel eu bod i bob pwrpas yn cael ei heithrio o batrymau, arferion a gweithgareddau arferol8.

Gall byw mewn tlodi olygu goblygiadau sylweddol i les unigolyn a chymuned, ac mae effaith tlodi yn tynnu’n groes i’r holl amcanion lles a nodir yn y cynllun hwn - p’un a bod hynny’n economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol. Oherwydd hynny, mae gan y Cyngor broses asesu’r effaith ar gydraddoldeb (EIA) sy’n golygu bod angen ystyried effaith gweithgareddau arfaethedig ar grwpiau o bobl ddiffiniedig yn Wrecsam, yn cynnwys y rhai hynny sy’n byw mewn tlodi. Er bod hynny’n annog dealltwriaeth bod tlodi’n fusnes i bawb, mae Strategaeth Taclo Tlodi 2015-18 yn canolbwyntio’n fwy penodol ar bedwar deilliant er mwyn deall, atal a thaclo tlodi, sef:

  1. Mae pobl yn Wrecsam yn llewyrchus;
  2. Mae pobl yn Wrecsam yn iach;
  3. Mae pobl yn Wrecsam yn ymgysylltu â dysgu; ac
  4. Mae pobl yn Wrecsam yn teimlo eu bod y ddiogel, a maent yn ddiogel.

Byddwn yn cynnal ffocws ar daclo anghydraddoldebau yn ein cymuned gan sicrhau y gall pobl gael mynediad i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Mae cynhwysiant digidol yn elfen allweddol o’r ffocws hwn oherwydd bod cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd yn chwarae rôl gynyddol o ran darparu budd-daliadau, mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a phrynu nwyddau a gwasanaethau. Mae mynediad i gyfrif banc yn golygu y gellir caffael cyfleustodau, ffonau symudol a chyfleusterau eraill yn rhatach drwy ddebyd uniongyrchol. Mae pobl ar gyflogau isel yn Wrecsam yn cael anhawster gwneud cais am gyfrif banc, ac o ganlyniad i hynny maent yn gorfod talu’n anghymesur am y pethau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar ddiffinio a darparu cymorth mewn perthynas â chynhwysiant ariannol er mwyn gorchfygu’r heriau yma.

Ein gweledigaeth hirdymor yw: Cydweithredu gyda’n partneriaid er mwyn hyrwyddo cyfleoedd effeithiol i’r rhai sy’n byw, neu mewn perygl y fyw mewn tlodi, i wella eu sefyllfa, a’u cynorthwyo i gymryd y cyfleoedd hynny.

Yn y tymor byr, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Yn y tymor canolig hyd at y tymor hir, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Byddwn yn monitro maint y broblem drwy:

Deilliant Dangosydd
Cymhariaeth
(Cyfartaledd Cymru)
Wrecsam Targed 2017/18
Cyfran y plant mewn aelwydydd gyda llai na 60% o ganolrif incwm (mewn tlodi) 20.5% (2012/13) 18.7% (2012/13) Tuedd o welliant
Canran o aelwydydd heb waith yn Wrecsam 19.4% (2014) 18.6% (2014) Tuedd o welliant

Byddwn yn monitro cynnydd o ran gwella cyfleoedd drwy:

Deilliant Dangosydd
Cyfartaledd Cymru
Haf 2015
Wrecsam
Haf 20159
Targed Haf 2016
Gwella: Y bwlch mewn lefelau cyflawniad plant sy’n gymwys, ac nad ydynt yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn
a) Y Cyfnod Sylfaen
b) Cyfnod Allweddol Dau
c) Cyfnod Allweddol Pedwar
a)14.9%
b) 15.7%
c) 31.9%
a)19.8%
b) 5.9%
c) 35.5%
Tuedd o welliant

8 Diffiniad gan Townsend, 1973

9Ffigwr diweddaraf sydd ar gael