Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Cynllun y Cyngor - Thema Strategol: Lle

Thema Strategol: Lle

Cynnal amgylchedd cynaliadwy ac amrywiol

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cwmpasu bron i 500km2 o Ogledd Ddwyrain Cymru, yn ffinio â Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae’r Fwrdeistref Sirol yn amrywiol iawn: ei chalon yw tref fwyaf Gogledd Cymru; i’r de ceir traphont Pontcysyllte Thomas Telford, sy’n Safle Treftadaeth y Byd ac yn gofeb i beirianneg Fictoraidd; i’r dwyrain ceir un o gyforgorsydd mwyaf Prydain, sy’n gartref i las y dorlan, elyrch mud, llygod dŵr a’r unig gymuned o Was y Neidr Wynebwyn yng Nghymru; i’r gogledd ceir un o ystadau diwydiannol mwyaf Ewrop, sy’n gartref i fusnesau megis Kelloggs a JCB; ac i’r gorllewin mae bryniau a phentrefi yr hyfryd Ddyffryn Ceiriog.

Rydym eisiau sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn parhau i fod yn lle deniadol a chyfleus i fyw, ymweld, gweithio ac i wneud busnes ynddo. Drwy’r Cynllun Datblygu Lleol byddwn yn hyrwyddo datblygu mewn lleoliadau priodol, gan sicrhau bod digon o dir ar gael ar gyfer cartrefi a busnesau newydd, ond ein bod hefyd yn gwarchod mannau gwyrdd, planhigion ac anifeiliaid sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth ac sy’n sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn lle hardd.

Gall tai fod yn ysgogwr pwerus mewn perthynas a gweithgaredd economaidd. Yn nhermau adfywio, mae cynnig y tai priodol (yn cynnwys tai fforddiadwy) yn hanfodol o ran denu a chadw gweithlu medrus, a bydd hynny yn ei dro yn annog mewnfuddsoddiad. Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn stoc tai y Cyngor ac yn gweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn darparu cartrefi fforddiadwy newydd. Bydd y posibilrwydd y bydd y Cyngor yn dechrau adeiladu tai Cyngor newydd ar ôl bwlch o dros 30 mlynedd yn rhoi ysgogiad i’r economi leol yn ogystal â darparu cartrefi sydd eu gwir angen.

Byddwn yn parhau i ymfalchïo yn ein hamgylchedd a’n gwasanaethau stryd, i fuddsoddi a gwella ein systemau trafnidiaeth, yn cynnwys hyrwyddo opsiynau teithio mwy cynaliadwy fel rhan o waith Teithio Llesol. Rydym eisoes yn berfformiwr cryf yn genedlaethol a byddwn yn parhau i weithio â thrigolion er mwyn cynnal a gwella ein perfformiad ailgylchu. Rydym yn ymfalchïo yn ein strydoedd ac yn gweithio’n galed ar leihau a gwaredu ysbwriel a thipio a byddwn yn parhau i fod yn rhagweithiol mewn perthynas â hyn.

Amcanion Lles Lleoliad

PL1 – Hyrwyddo tai o ansawdd da ac adfywio

Mae tai addas a hygyrch yn allweddol i bawb. Mae’r Cyngor yn landlord i 11,214 o aelwydydd ar draws y Fwrdeistref Sirol, ac mae’n rhaid i’r cyfan fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020. Mae hynny golygu rhaglen gyfalaf werth tua £228m a’r angen i fenthyca £125m. Mae’r sector rhentu preifat yng Nghymru wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar ac erbyn hyn mae’n cyfateb i 14% o gyfanswm y stoc. Disgwylir i’r twf yma barhau, ac mae disgwyl iddo gystadlu â rhent cymdeithasol/fforddiadwy fel yr ail ddaliadaeth sydd fwyaf ar gael yn ystod y pum i ddeng mlynedd nesaf. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ceisio gwella’r safonau yn y sector hwn, gan roi dyletswydd newydd ar landlordiaid preifat ac asiantaethau rheoli/gosod i gofrestru a chael trwydded er mwyn ymgymryd â gosod a rheoli.

Mae’r Gwasanaeth Digartref yn darparu rhwyd ddiogelwch i bobl leol sy’n dod yn ddigartref, ond bydd ffocws y gwasanaeth yn parhau i fod ar gynnal unigolion a’u teuluoedd yn eu cartrefi a’u tenantiaethau. Mae Cam 1 Prosiect Tai Fforddiadwy wedi ei gyflawni ac wedi darparu dros 250 o gartrefi fforddiadwy newydd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Yn ystod y camau olaf byddwn yn parhau i weithio gyda’n partner, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, er mwyn hwyluso darparu tai mwy fforddiadwy drwy ddarparu mwy o safleoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol, ond hefyd drwy Raglen Adeiladu a Phrynu y Cyngor, fydd yn galluogi’r Cyngor i ychwanegu eiddo newydd i’w stoc tai.

Ein gweledigaeth hirdymor yw: Cael ein cydnabod fel sefydliad sy’n darparu mwy o gartrefi, mwy o ddewis a gwell gwasanaethau tai. Drwy hyn, a thrwy gefnogi marchnad dai lleol sy’n darparu ystod o opsiynau tai o safon, byddwn yn gwella ansawdd tai lleol a chryfder cymunedau lleol.

Yn y tymor byr, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Yn y tymor canolig hyd at y tymor hir, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Byddwn yn monitro argaeledd llety o ansawdd da drwy:

Deilliant Dangosydd
Cymhariaeth
(Wrecsam 2015/16)
Wrecsam 2016/2017 Targed 2017/2018
Safon Gwasanaeth: Nifer yr unedau newydd o dai fforddiadwy a ddatblygir 79 60 (Rhagfynegwyd) 40
Cynnal: Nifer yr eiddo gwag fydd yn cael eu hailddefnyddio o ganlyniad i weithgaredd y Cyngor 33 33 (Rhagfynegwyd) 33
Newydd: Canran yr eiddo rhent yn y sector preifat yn y Fwrdeistref Sirol sydd wedi’u cofrestru â Rhentu Doeth Cymru 24 7.6% I’w sefydlu drwy ddatblygu Strategaeth Tai Lleol

Newydd: Nifer y Tai Amlfeddiannaeth sydd wedi derbyn:

  • a) Trwyddedau Gorfodol
  • b) Trwyddedau cynllun Trwyddedu Ychwanegol
  • a) 40
  • b) 278
Newydd: Nifer yr eiddo rhentu preifat a archwiliwyd gydag o leiaf un ‘Perygl categori 1’. 8.8%

Byddwn yn monitro safon y cartrefi a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor drwy:

Deilliant Dangosydd
Cymhariaeth
(Wrecsam 2015/16)
Wrecsam 2016/2017 Targed 2017/2018
Safon Gwasanaeth: Canran yr holl aelwydydd digartref posibl a ataliwyd rhag bod yn ddigartref am 6 mis 79% 75% 65%
Ymestyn: Canran yr eiddo sy’n bodloni elfennau canlynol Safon Ansawdd Tai Cymru25:
  • a) Ceginau newydd
  • b) Ystafelloedd ymolchi newydd
  • c) Gwresogi digonol
  • d) Mewn cyflwr da
  • 60%
  • 51%
  • 77%
  • 59%
  • 82%
  • 76%
  • 82%
  • 66%
  • 100%
  • 100%
  • 89%
  • 74%

24 Gallai Landlordiaid gofrestru’n wirfoddol o 23 Tachwedd 2015, a daeth cofrestru gorfodol i rym ar 23 Tachwedd 2016. Daeth y gwaelodlinau o 31 Mawrth 2016 - cyn i gofrestru fod yn orfodol.

25 Pan fo tenantiaid yn cael cynnig, ond yn gwrthod, gwaith wedi’u gynllunio, ystyrir bod yr eiddo yn bodloni’r WHQS nes y bydd yn dod yn wag ac yna bydd yn ofynnol i’r eiddo hwnnw gael ei godi i safon WHQS cyn iddo gael ei ailosod. Felly, bydd targedau 100% yn cael eu cyrraedd hyd yn oed os bydd rhai tenantiaid yn gwrthod y gwaith a gynigir iddynt.

PL2 – Balchder yn ein hamgylchedd

Mae effeithiau amgylcheddol newid yn yr hinsawdd, cost gynyddol trydan a thanwydd ffosil, targedau’r Llywodraeth a chosbau am allyriadau carbon a faint o wastraff a anfonir i dirlenwadau, yn golygu bod cyfrifoldeb amgylcheddol yn flaenoriaeth i Wrecsam.

Byddwn yn parhau i diweddaru a gwella ein gwasanaethau gwastraff, cynorthwyo ac annog ein trigolion i barhau i gynyddu cyfran o’u gwastraff domestig a ailgylchir neu a gompostir. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gweithio gyda thrigolion er mwyn lleihau swm cyffredinol y gwastraff maent yn ei gynhyrchu.

Rydym yn optimeiddio effeithlonrwydd ynni ein gwasanaethau a’n hisadeiledd, gan gadw costau a’n heffaith amgylcheddol mor isel â phosibl, gan gynorthwyo pobl leol i gael mynediad i wybodaeth am sut allant wneud yr un modd. Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy drwy ein ffermydd solar, gan ddarparu cynlluniau adnewyddadwy newydd yn llwyddiannus er mwyn lleihau ein gofynion ynni a gwireddu cyfleoedd i greu incwm (e.e. tariffau cyflenwi, cymhellion gwres adnewyddadwy). Rydym yn buddsoddi mewn technolegau mwy ynni effeithlon (e.e. cynyddu ein defnydd o oleuadau stryd LED) ac yn gofyn i’n swyddogion a’n Haelodau feddwl am yr angen i deithio, ac adeiladu ar waith Cynllun Teithio Staff ac Aelodau, gan ymdrechu i arwain drwy esiampl.

Hefyd, rydym eisiau cadw ein Bwrdeistref Sirol yn hardd, p’un a bod hynny'n golygu cadw ein trefi a’n pentrefi yn lân neu gynnal ein mannau gwyrdd ar gyfer pobl leol a bywyd gwyllt. Drwy’r Strategaeth Coed a Choetir rydym yn bwriadu creu cynnydd o 20% yn nifer y coed trefol yn y Fwrdeistref erbyn 2026. Byddwn yn parhau i darparu gwasanaethau strydoedd er mwyn cefnogi hyn, ond byddwn hefyd yn ceisio cymell pobl i beidio â thaflu ysbwriel, tipio na gwneud pethau eraill anghyfrifol drwy gymryd camau rhagweithiol.

Ein gweledigaeth hirdymor yw: cael ein cydnabod fel sefydliad carbon isel, gwastraff isel, amgylcheddol gyfrifol sy’n cynorthwyo pobl leol i wneud eu rhan.

Yn y tymor byr, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Yn y tymor canolig hyd at y tymor hir, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Byddwn yn monitro ein llwyddiant drwy:

Deilliant Dangosydd
Cymhariaeth
(Wrecsam 2015/16)
Wrecsam 2016/2017 Targed 2017/2018
Cynnal: Dangosydd cenedlaethol - Canran y gwastraff trefol a ailddefnyddir, ailgylchir neu a gompostir 62.18% 64% Targed statudol26 – 61% Targed lleol - 65%
Gwella: Dangosydd cenedlaethol - canran yr achosion o dipio hysbys sy’n cael eu clirio o fewn 5 diwrnod gwaith 91.96% Adroddiadau
Yr Haf
2017
Tuedd o welliant
Gwella: Dangosydd cenedlaethol - canran y priffyrdd a archwiliwyd sydd â safon glendid uchel neu dderbyniol 91.1% Adroddiadau
Yr Haf
2017
Tuedd o welliant

Gwella: Lleihau teithio busnes gan Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • a) Lleihau milltiroedd teithio busnes
  • b) Lleihau allyriadau teithio busnes
2,238,110m27 637,408 KgCo2 2,031,990m28 611,385 KgCo2 Tuedd o welliant

26 Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r targed statudol

27 Mae’r ffigyrau a nodir ar gyfer teithio busnes rhwng Mawrth 2014 – Chwefror 2015

28 Mae’r ffigyrau a nodir ar gyfer teithio busnes rhwng Mawrth 2015 – Chwefror 2016

PL3 – Cymunedau ag anheddau, cymdogaethau, adeiladau a gofodau cynaliadwy a deniadol

Daw pobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam o dreftadaeth gyfoethog o gymunedau amrywiol. Yn draddodiadol ymddangosodd y cymunedau hyn o gwmpas haenau o fwynau, chwareli, llwybrau teithio a chyfleoedd cyflogaeth traddodiadol megis cloddio a bragu. Wrth i ni geisio gwarchod mannau gwyrdd y Fwrdeistref Sirol a blaenoriaethu ailddatblygu safleoedd tir llwyd, mae’r pentrefi a’r trefi sy’n bodoli heddiw yn dal i adlewyrchu’r aneddiadau hanesyddol yma.

Rydym eisiau i’n cymunedau weithio a thyfu mewn harmoni gyda’i gilydd a chynnal cysylltiadau cadarnhaol sy’n cydnabod bod gan bawb yn Wrecsam gyfuniad unigryw o rinweddau, sgiliau, cefndiroedd, treftadaeth a chredoau.

Mae dangosyddion allweddol o ansawdd datblygiadau newydd mewn trefi a phentrefi yn cynnwys mesuriadau gwrthrychol megis safonau cenedlaethol ar gyfer cartrefi cynaliadwy ac adeiladau masnachol a faint o ddatblygu a ganiateir mewn cefn gwlad agored, yn ogystal â mesuriadau goddrychol megis barn y cyhoedd ar ddatblygiadau newydd ar ôl iddynt gael eu hadeiladu. Byddwn yn hyrwyddo datblygu a defnyddio tir sy’n creu cyflogaeth, yn adfywio cymunedau ac yn creu mannau deniadol, diogel a hygyrch i fyw ynddynt, gan warchod yr amgylchedd.

Ein gweledigaeth hirdymor yw: clustnodi digon o dir i gynnal anghenion tai, busnes a manwerthu’r Fwrdeistref Sirol gan warchod ein treftadaeth adeiledig a naturiol.

Yn y tymor byr, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Yn y tymor canolig hyd at y tymor hir, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Byddwn yn monitro ein llwyddiant drwy:

Deilliant Dangosydd
Cymhariaeth
(Wrecsam 2015/16)
Wrecsam 2016/2017 Targed 2017/2018
Gwella: Sicrhau bod yr Awdurdod yn cynnal cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai 0 0 5 blynyddoedd o gyflenwad tir (mabwysiadu’r CDLl)
Safon Gwasanaeth: Cadw neu wella’r Ardaloedd Cadwraeth - canran y ceisiadau a gymeradwywyd yn unol â Chanllawiau Ardal Gadwraeth 100% Adroddiadau Q1 100%

Gwella: Nifer yr Aneddiadau a Gwblheir yn Flynyddol

(nifer y cartrefi newydd angenrheidiol 7750, 2013-2028)

199 2016 / 17 ffigyrau monitro ddim yn gyflawn eto (byddant yn barod Mehefin 2017) 500

PL4 – Cymunedau cynaliadwy sydd wedi'u cysylltu’n dda

Nid yw argaeledd swyddi neu fodolaeth mannau gwyrdd, cyfleoedd siopa a chyfleoedd diwylliannol, yn golygu fawr ddim, os na all pobl gael mynediad hawdd a fforddiadwy iddynt. Byddwn y ceisio sicrhau bod gan bobl leol ystod o opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy drwy lobïo a gweithio â phartneriaid er mwyn cynnal a gwella ein hisadeiledd trafnidiaeth a thrwy wneud yr hyn a allwn i gefnogi darparwyr trafnidiaeth cyhoeddus lleol.

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae costau adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd yn cynyddu’n gyflym tra bod ein cyllid yn prinhau. Er hynny, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ffyrdd y Fwrdeistref Sirol, gweithio i gynnal y safonau uchaf posibl â’r cyllid sydd ar gael a blaenoriaethu ein gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf er mwyn sicrhau bod llwybrau trafnidiaeth allweddol yn cael eu halltu ac yn aros yn agored. Rydym wedi nodi ein dyheadau ar gyfer gwasanaethau ac isadeiledd rheilffordd yn Wrecsam, a byddwn yn cefnogi cyfleoedd i wella capasiti’r rhwydwaith, amledd y gwasanaeth a’r dewis o gyrchfannau. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw hynny’n digwydd ar draul gwasanaethau lleol Wrecsam na’r cysylltiadau uniongyrchol a strategol i’r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach y mae twf economaidd presennol Wrecsam ac yn y dyfodol yn ddibynnol arno. Byddwn hefyd yn ceisio annog cadw trafnidiaeth cyhoeddus lleol hygyrch er gwaethaf cyllideb genedlaethol sy’n prinhau, a chostau cynnal cynyddol i gwmnïau trafnidiaeth. Oherwydd na allwn ofyn am ddata masnachol sensitif gan gwmnïau bysiau preifat, megis nifer y teithiau gan deithwyr, byddwn yn mesur cyfanswm y pellter a deithir gan wasanaethau Bysiau Lleol Masnachol fel dangosydd dibynadwy o ddefnydd ac argaeledd cyffredinol, a chydnerthedd cyffredinol y rhwydwaith bysiau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hygyrchedd wedi dod yn fater cynyddol ‘rithwir’, gyda mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein. Rydym eisiau i’r cyfleoedd hyn fod yr un mor hygyrch i bobl leol, a byddwn yn gweithio ar lobïo a dylanwadu ar ddarparwyr er mwyn gwella ansawdd argaeledd band eang lleol, gan ddefnyddio busnesau lleol i arwain y galw. Mae yna raglen genedlaethol ar waith ar gyfer gwella band eang ar hyd a lled Cymru, a byddwn yn parhau i bwyso i roi mwy o flaenoriaeth i’r Fwrdeistref Sirol.

Ein gweledigaeth hirdymor yw: cael rhwydwaith trafnidiaeth hygyrch ac effeithlon sy’n rhoi opsiynau trafnidiaeth i bobl sy’n gyfleus a chynaliadwy.

Yn y tymor byr, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Yn y tymor canolig hyd at y tymor hir, er mwyn cyflawni hynny byddwn yn:

Byddwn yn monitro ein cynnydd drwy:

Deilliant Dangosydd
Cymhariaeth
(Wrecsam diwedd blwyddyn 2015/16)
Wrecsam 2016/2017 Targed 2017/2018
Cynnal: Canran y rhwydwaith ffyrdd (A) mewn cyflwr cyffredinol wael 2.3% Adroddiadau Haf 2017 Aros yn y chwartel uchaf yng Nghymru
Cynnal: Canran y rhwydwaith ffyrdd (B) mewn cyflwr cyffredinol wael 2.7% Adroddiadau Haf 2017 Aros yn y chwartel uchaf yng Nghymru
Cynnal: Canran y rhwydwaith ffyrdd (C) mewn cyflwr cyffredinol wael 19.7% Adroddiadau Haf 2017 Aros ar y lefel bresennol
Cynnal: Canran cyfanswm hyd hawliau tramwy sy’n hawdd eu defnyddio 70% Adroddiadau Haf 2017 70%

Byddwn yn monitro ein darpariaeth fasnachol drwy:

Deilliant Dangosydd
Cymhariaeth
(Wrecsam diwedd blwyddyn 2015/16)
Wrecsam 2016/2017 Targed 2017/2018
Newydd: Pellter teithio bysiau masnachol Dangosydd newydd Gosod gwaelodlin Cynnal

Lobio: Faint o’r 15 o gyfnewidfeydd y Fwrdeistref Sirol sydd:

  • a) wedi’u galluogi gyda Rhwydwaith 21ain Ganrif
    29
  • b) wedi’i galluogi â Ffibr i’r Cabinet30
  • a) 14
  • b) 6
  • a) 14
  • b) 6
Lobïo Darparwyr

29 Darparu cyflymder band eang o hyd at 24Mbps (mega-bitiau yr eiliad) yn ddibynnol ar bellter o’r gyfnewidfa ac ansawdd y copr

30 Cyflymder band eang o hyd at 80 Mbps. Mae Ofcom yn diffinio ‘band eang cyflym iawn’ fel cyflymder o ddim llai na 30 Mbps.