Croeso i Gynllun y Cyngor. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd yn byw yn y Fwrdeistref Sirol, yn gweithio yma neu'n ymweld â hi. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys amrediad helaeth o bynciau ac mae'n bosibl y gallech ddod i gysylltiad â'n gwasanaethau yn gwbl ddiarwybod.
Mae cadw'r strydoedd yn lân a thaclus, casglu sbwriel o gartrefi a busnesau, cefnogi a chynghori busnesau, darparu mannau chwarae a pharciau gwledig, ysgolion, llyfrgelloedd, clybiau ieuenctid, canolfannau hamdden, cyflenwi gofal cymdeithasol i bobl, gan gynnwys yr henoed a phlant, casglu'r dreth gyngor a thalu budd-daliadau tai, tai cyngor, gwasanaethau cofrestru, cyngor cynllunio a gorfodi, meysydd parcio, cynnal a chadw ffyrdd a gweithgareddau diogelwch ar y ffyrdd, ymhlith yr enghreifftiau o'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Mae ein Cynllun wedi'i rannu yn dair dogfen i roi ystod o wybodaeth i chi ar ein perfformiad, cip olwg ar yr hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni yn y dyfodol a threm yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni. Ceir 'arwyddbyst' at wybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol i chi drwy'r dogfennau. Mae ffurfiau cryno o'r dogfennau ar gael hefyd.
Crynodeb o Gynllun y Cyngor
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:
Crynodeb o Gynllun y Cyngor - Fersiwn PDF 133Kb![]()
Diffinio ein Cyfeiriad 2009 i 2012Mae hon yn rhoi darlun cyffredinol o weledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer 2009 i 2012 a'r weledigaeth ehangach o Strategaeth Gymunedol Wrecsam. Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y dewisom ein blaenoriaethau, crynodeb o'n perfformiad a gwybodaeth arall a ddylanwadodd ar ein penderfyniadau. Mae'n cloi trwy amlinellu'r broses yr ydym yn ei dilyn ar gyfer cynllunio a gwella ein gwasanaethau a'r ddeddfwriaeth sydd yn sail i'r gwaith hwn.
Diffinio ein Cyfeiriad 2009 i 2012
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:
Diffinio ein Cyfeiriad 2009 i 2012 - Fersiwn PDF 1.4Mb![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Gosod ein targedau ( a gynhyrchir yn flynyddol ym mis Mehefin)Mae hon yn rhoi gwybodaeth am y targedau yr ydym wedi'u gosod i ni ein hunain i'w cyrraedd er mwyn i ni symud tuag at gyflawni'r gwelliannau yr ydym yn eu dymuno ar gyfer y flwyddyn hon (e.e. Ebrill 2011 i Fawrth 2012). Mae'n cynnwys gwybodaeth am y broses yr ydym yn ei dilyn i wneud hynny a'r ddeddfwriaeth sydd yn sail i'r gwaith hwn.
Gosod ein targedau 2011 i 2012
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:
Gosod ein targedau 2011 i 2012 - Fersiwn PDF 1.4Mb![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Canolbwyntio ar ein Perfformiad (cynhyrchir yn flynyddol ym m mis Hydref)Mae hon yn rhoi gwybodaeth am ein perfformiad yn ystod y flwyddyn flaenorol o'i gymharu â'r targedau a osodom ar gyfer ni ein hunain (e.e. Ebrill 2008 i Fawrth 2009), sut y mae ein perfformiad yn cymharu ag eraill, beth rydym wedi'i ganfod wrth adolygu ein gwasanaethau ac wrth ofyn i bobl am eu sylwadau a sut yr ydym wedi defnyddio'r holl wybodaeth. Mae hefyd yn amlinellu'r broses yr ydym yn ei dilyn ar gyfer cynllunio, monitro a gwerthuso ein gwasanaethau a'r ddeddfwriaeth sydd yn sail i'r gwaith hwn.
Canolbwyntio ar ein Perfformiad 2010 i 2011
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:
Canolbwyntio ar ein Perfformiad 2010 i 2011 – Fersiwn PDF 4.2Mb![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Rydym yn croesawu barn ar y Cynllun Gwella. Anfonwch unrhyw sylwadau neu geisiadau am gopi o'r ddogfen hon mewn print bras, ieithoedd eraill neu ar ffurf arall, at y cysylltiadau isod:
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant
Adran Cyllid a Pherfformiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AY
E-bost: contact-us@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292000.
Cynllun Gwella 2008/2009 - Fersiwn PDF 1.6Mb ![]()