O dan y Ddeddf Plant (2004), mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cydweithredu gydag asiantaethau partner i ddatblygu cynllun er mwyn gwella’r canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
O dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (2006) mae gan bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd ddyletswydd i baratoi Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles i’w hardal. Oherwydd y bydd y cynllun a’r strategaeth yn cyd-redeg am dair blynedd o Ebrill 2011 ymlaen gyda chyd-ffocws ar wella’r canlyniadau i ddinasyddion lleol Cymru i gyd, mae’r partneriaethau statudol perthnasol yn Wrecsam wedi cytuno mai un cynllun fyddai’n gweithio orau i sicrhau cydweithrediad, lleihau dyblygu a diwallu anghenion pobl Wrecsam orau. Defnyddiwyd ystod o ddogfennau cenedlaethol a lleol allweddol i oleuo datblygiad a chynnwys ein cyd-gynllun er mwyn gwireddu ein cyd-ganlyniadau.
Mae’r ddogfen strategol bwysig hon wedi cael ei datblygu drwy Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Wrecsam a Phartneriaeth y Fframwaith Plant a Phobl Ifanc, ac mae’n dangos ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ac i gynnwys y cyhoedd. Mae’n cynnwys ein gweledigaeth tair blynedd ynghyd â’r canlyniadau a’r meysydd blaenoriaeth yr ydym am eu cyflawni erbyn 2014 tra’n cryfhau ymhellach y gwaith a wnaethom yn ein Cynlluniau 2008-11. Yn yr hinsawdd ariannol presennol, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau y rhoddir y flaenoriaeth uchaf i’r rhai mwyaf anghenus er mwyn cyflawni ein canlyniadau. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau er mwyn gwireddu ein gweledigaeth a dangos y gwahaniaeth a wnaed i les pobl Wrecsam.
Mae’r Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a Phartneriaeth y Fframwaith Plant a Phobl Ifanc yn hynod ddiolchgar i’r holl bobl a gymrodd ran yn y broses ymgynghori ar gyfer Ein Cyd Gynllun ac yn yr ymgynghori cysylltiedig ar yr asesiad i weld a oes digon o ofal plant yn yr ardal, rhwng 8 Tachwedd 2010 a’r 30 Ionawr 2011. Ymatebodd dros 650 o bobl i’r ymgynghoriad naill ai fel unigolion neu drwy gynrychioli sefydliadau, mewn cyfarfodydd, gweithdai a thrwy e-bost, yn y post ac yn y digwyddiad ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Ionawr. Casglwyd yr holl ymatebion ynghyd cyn eu cyflwyno i gyfarfodydd y tîm a fu’n ysgrifennu’r Cyd-Gynllun yng nghyswllt pob un o’r naw maes canlyniad, yn ystod Ionawr a Chwefror. O ganlyniad, mae dogfen y Cyd-Gynllun wedi cael ei newid i adlewyrchu’r adborth hwn. Cafodd fersiwn terfynol y Cyd-Gynllun ei fabwysiadu gan Fwrdd Iechyd llawn Prifysgol Betsi Cadwaladr a daw’r Cynllun i rym yn llawn o’r 1 Ebrill ymlaen.
E-bost: ourjointplan@wrexham.gov.uk
Y Tîm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
2il Lawr
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Ffacs: 01978 297065
Gwella Lles Wrecsam Gyda'n Gilydd - Ein Cydgynllun 2011-14
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Gwella Lles Wrecsam Gyda'n Gilydd - Ein Cydgynllun 2011-14 - Fersiwn PDF 1.5Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.