Croeso i Gynllun Gwella Blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2008/09. Dyma ddogfen perfformiad a chyflenwi gwasanaethau allweddol y Cyngor, sy’n amlinellu ein gweledigaeth â’n hymrwymiadau ar gyfer 2008/09 ac sy’n rhoi manylion cynhwysfawr o’n perfformiad yn ystod 2007/8.
Mae cyllidebau llai ac arbedion effeithlonrwydd dilynol a ddaw o hyn yn parhau i ddylanwadu ar agenda’r awdurdod lleol, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn sefyllfa dda i weithio o fewn cyfyngiadau o’r fath ac mae’n parhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i bobl Wrecsam. Cynhaliwyd yr etholiadau lleol ym mis Medi 2008 ac maent wedi cael effaith ar gyfansoddiad y Cyngor a byddant yn parhau i wneud hynny tra bod blaenoriaethau’r aelodau sydd newydd gael eu hethol yn dal yn dod i’r amlwg. Yn ffodus mae Wrecsam yn adnabyddus am fod ag aelodau gweithgar a brwd a disgwylir y bydd hyn yn parhau ac yn helpu i ddatblygu’r broses o wella’r gwasanaeth dros y flwyddyn sydd i ddod.
Yn 2007/08 gwnaethom gynnal ein lefel perfformiad uchel, gan ragori ar y gwelliannau a wnaed yn 2006/07. Gwnaed gwir gynnydd o ran ein blaenoriaethau lefel uchaf (Blaenoriaethau Corfforaethol) lle y ceir adnoddau ac ymdrechion ychwanegol, a daethpwyd i’r casgliad mewn gwerthusiadau eu bod ar y trywydd iawn ar gyfer 2007/8. Crynhoir rhai o’r llwyddiannau amlycaf isod.
Ochr yn ochr â’r llwyddiannau allweddol hyn, mae angen i ni ychwanegu at ein llwyddiant ac edrych ymhellach i’r dyfodol i sicrhau bod Wrecsam yn parhau i wella. Mae ein hymrwymiadau allweddol isod yn amlygu rhai o’n prif flaenoriaethau ar gyfer 2008/9.
Mae Cyfarwyddwyr Strategol wedi hysbysu adrannau o’r canlyniadau y maent am eu gweld yn 2008/9. Dim ond gwaith ymroddedig adrannau ynghyd â chefnogaeth aelodau a fydd yn sicrhau bod modd cyrraedd targedau ac y parheir i wneud cynnydd. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn parhau i fod â rôl bwysig, gyda chydweithwyr o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn gwneud cyfraniadau sylweddol. Mae’r ymagwedd gydweithiol hon tuag at yr heriau yn sicrhau heb os nac oni bai y bydd 2008/09 yn flwyddyn lwyddiannus unwaith eto.
Rydym yn croesawu barn ar y Cynllun Gwella. Anfonwch unrhyw sylwadau neu geisiadau am gopi o'r ddogfen hon mewn print bras, ieithoedd eraill neu ar ffurf arall, at y cysylltiadau isod:
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant
Adran Cyllid a Pherfformiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AY
E-bost: finance@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292259.
Cynllun Gwella 2008/2009 - Fersiwn PDF 1.6Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.