Mae Amgueddfeydd Wrecsam yn casglu ar ran y gymuned leol er mwyn cadw treftadaeth Wrecsam a cynorthwyo ein amgueddfeydd lleol i gynnig gwasanaethau i amrywiol anghenion y defnyddwyr.
Yn y rhan hon byddwch yn canfod:
Y ffaith mwyaf pwysig yw:
Mae Amgueddfeydd Wrecsam yn casglu ar ran y gymuned leol er mwyn cadw treftadaeth Wrecsam a chynorthwyo ein hamgueddfeydd lleol i gynnig gwasanaethau i amrywiol anghenion y defnyddwyr.
Mae'r rhifau mewn cromfachau e.e. (1.1.) yn cyfeirio at y Polisi Caffaeliadau a Gwaredu Swyddogol.
Mae gan bob amgueddfa bolisi casglu, ond pam?(1.1) Mae'n sicrhau bod Amgueddfeydd Wrecsam yn casglu'r eitemau mwyaf pwysig i gynrychioli treftadaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Mae'n sicrhau bod Amgueddfeydd Wrecsam yn casglu eitemau y gellir eu defnyddio mewn arddangosfeydd, addysg ac ymchwil.
Mae'n sicrhau bod unrhyw un sy'n rhoi gwrthrych i Amgueddfeydd Wrecsam yn gwybod y gofelir am y gwrthrych ac na fydd yn cael ei werthu.
Yn swyddogol adnabyddir polisïau casglu fel Polisïau Caffaeliadau a Gwaredu. Mae hyn yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n dod i mewn a'r hyn sy'n mynd allan, ond y rhan bwysig yw yr hyn sy'n digwydd pan fo'r gwrthrych yng ngofal Amgueddfeydd Wrecsam.
Mae'r casgliadau yn adlewyrchu treftadaeth gymdeithasol, milwrol a diwydiannol lleol Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae'r casgliadau yn ugain mlwydd oed yn unig; ifanc iawn i gasgliad amgueddfa.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys: deunydd o'r diwydiant bric, teiliau a therecota; casgliad o hen glociau Wrecsam, casgliad pêl-droed Cymru, deunydd diwydiannol archeolegol o Ddyffryn Clywedog a deunydd sy'n gysylltiedig â chyhoeddi ac argraffu Wrecsam.
Pa eitemau hanesyddol sydd o ddiddordeb i Amgueddfeydd Wrecsam? Celf - sy'n gysylltiedig yn ei thema neu drwy'r arlunydd i'r Fwrdeistref Sirol (2.1)
archeolegol, canfyddiad damweiniol neu â datgeliad metel drwy'r Cynllun Caffaeliaid Cludadwy (2.3)
Gwisgoedd - dillad smart, dillad hamdden, dillad gwaith, gwisgoedd unffurf sy'n gysylltiedig â'r Fwrdeistref Sirol (2.5)
Hanes Cymdeithasol - yr holl eitemau sy'n gysylltiedig â'n bywyd bob dydd (2.6)
Pêl-droed - gwrthrychau cofiadwy sy'n gysylltiedig â phêl-droed yng Nghymru o'r clybiau lleol hyd at y tîm cenedlaethol. (2.6.1)
Hanes milwrol - gwrthrychau milwrol sy'n gysylltiedig â chatrawdau sy'n gysylltiedig yn hanesyddol â Wrecsam e.e Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru - Iwmoniaeth Sir Ddinbych (2.6.2)
Hanes economaidd - gwrthrychau sy'n gysylltiedig â diwydiannau amrywiol Wrecsam yn y gorffennol, sut y gwnaeth bobl eu bywoliaeth o amgylch Wrecsam yn y gorffennol neu sut oeddynt yn gwario eu harian. (2.8, 2.8.7 & 2.8.8)
Cloddio am lo - deunydd sy'n gysylltiedig â phyllau glo lleol a'u cymunedau (2.8.1)
Haearn a Dur - arddangosir yng Nghanolfan Treftadaeth y Bers ar hyn o bryd.(2.8.3)
Mwyngloddio Plwm - arddangosir yng Nghanolfan Ymwelwyr Pyllau Plwm y Mwynglawdd ar hyn o bryd.(2.8.4)
Cludiant (2.8.5)
Mudiad yr Undebau Llafur - deunydd sy'n berthnasol i'r Undebau a'r cysylltiadau diwydiannol yn lleol (2.8.6)
Casgliadau Gwyddoniaeth: sbesimenau Gwyddoniaeth Naturiol gan gynnwys geoleg, a deunydd technolegol a gwyddonol. (2.9.1 & 2.9.2)
Deunydd Pensaerniol (2.9.3)
Mae ffocws y casgliad ar fywyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Fodd bynnag, ni ddatblygodd y Fwrdeistref Sirol ar phen ei hun. Bydd Amgueddfeydd Wrecsam yn casglu deunydd sy'n cynrychioli'r gorffennol neu sut mae bywyd wedi newid yma, ond o rywle arall. (3.10)
Cyfyngiadau ar gasglu (4)
Polisïau casglu amgueddfeydd eraill (5)
Diweddaru Polisi Casglu Amgueddfeydd Wrecsam (6)
Sut mae Amgueddfeydd Wrecsam yn casglu deunydd? (8)
Llywodraethir pob amgueddfa gan reolau cenedlaethol a rhyngwladol ynghylch yr hyn y caniateir ei gasglu.
Benthyciadau
Yn gyffredinol bydd Amgueddfeydd Wrecsam ond yn derbyn benthyciadau am gyfnodau penodol neu ar gyfer arddangosfeydd arbennig. Yn y gorffennol, roedd amgueddfeydd yn derbyn gwrthrychau ar 'fenthyciad parhaol' neu'n unol â dymuniad y perchennog. Arweiniodd yr arferiad hwn at broblemau o bob math.
Mae Amgueddfeydd Wrecsam yn aml yn arddangos deunydd ar fenthyciad dros dro pan fo'r eitemau dan sylw o ddiddordeb arbennig i ymwelwyr yr Amgueddfa.
Ysbeiliad / Difrod (9)
Nid yw’r gwasanaeth amgueddfeydd yn derbyn eitemau a gasglwyd yn anghyfreithlon yn ystod cyfnod 1933-1945.
Dychwelyd ac adfer (10)
Mae’r amgueddfa yn cadw at y ddeddfwriaeth ddiweddaraf a chyfarwyddyd MLA/CyMAL ynghylch dychwelyd gweddillion dynol, gwrthrychau ac enghreifftiau o wlad neu bobloedd tarddiad.
Gweithdrefnau Gwaredu (12)
Mae'r rhagdybiaeth yn erbyn Amgueddfeydd yn gael gwared ar eu casgliadau. Dyna un rheswm pam ei bod yn rhaid i' Amgueddfeydd fod yn ofalus ynghylch yr hyn a gasglant. Ceir dulliau a gydnabyddir yn genedlaethol i waredu eitemau mewn casgliadau - adnabyddir hwy fel dad-dderbyn ym myd yr amgueddfeydd.
Gallai unrhyw amgueddfa sy'n ceisio cael gwared ar eitemau mewn dull amhriodol gael eu di-gofrestru gan Resource: Cyngor yr Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Addysg a Chasgliad Trin
Mae gwasanaeth addysg yr amgueddfa yn casglu gwrthrychau a deunyddiau archifol sy’n galluogi staff i ddarparu gweithdai i ysgolion lleol ac yn darparu blychau benthyca i ysgolion eu defnyddio.
Sut i gyfrannau rhywbeth at eich amgueddfa leolYdych chi'n ystyried cyfrannu eitem tuag at gasgliad yr Amgueddfa?
Rhai awgrymiadau:
Ffoniwch yr Amgueddfa ar 01978 317 970 a gofynnwch am gael siarad â'r Curadydd cyn galw heibio'r Amgueddfa'n bersonol. Gallai hyn arbed siwrnai wag i chi.
Trafodwch hyn â'ch teulu cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Mae'n arbed tor calon yn ddiweddarach.
Os oes gennych unrhyw ddeunydd sy'n berthnasol i'r gwrthrych dewch â hyn i mewn hefyd e.e hoffech gyfrannau het draddodiadol Gymreig eich mam - os oes gennych ffotograff o'ch mam yn ei gwisgo, dewch â hwn hefyd. Byddem yn sganio'r ffotograff os nad ydych am ei gyfrannu. Po fwyaf y wybodaeth a geir gyda gwrthrych, po fwyaf o werth y bydd i genedlaethau'r dyfodol.
Peidiwch â rhuthro wrth ddod i mewn. Rydym yn hoffi cofnodi cymaint o wybodaeth â phosibl. Mae gwrthrychau heb wybodaeth fel amddifadiaid casgliadau'r amgueddfa. Gorau oll po fwyaf o storïau y gellwch eu darparu sy'n gysylltiedig â'r gwrthrychau, megis y bobl a oedd yn berchen arnynt neu'n gweithio â hwy e.e. efallai i'ch mam dderbyn yr het gan ei mam hi a enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1912 yn Wrecsam.
Nid oes raid i'r gwrthrych fod yn werthfawr i fod o ddiddordeb i'r Amgueddfa. Mae sawl eitem y credir eu bod yn ddiwerth, yr union beth sydd eu hangen ar gyfer ein harddangosfeydd.
Os yw'n hanesyddol ac yn lleol, anghofiwch y sgip - ffoniwch Amgueddfa Wrecsam ar 01978 317970.
Sut y gallai eich hen wrthrychau helpu'r amgueddfaRydym bob amser yn edrych am ddeunydd i ddefnyddio yn ein gweithdai i ysgolion ac yn ein blychau atgofion.
Gallai unrhyw wrthrych sy'n gweddu â'r themâu canlynol fod yn union beth yr ydym ei angen:Os ydych yn dymuno cyfrannu eitemau ar gyfer eu defnyddio yng ngweithdai'r ysgolion a'r blychau atgofion cysyllter ag Amgueddfa Wrecsam ar 01978 317 970 a gofynnwch am siarad gyda'r Swyddog Addysg.
Polisi Casglu Amgueddfeydd Wrecsam
Mae'r polisi ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Polisi Casglu Amgueddfeydd Wrecsam - Fersiwn Word 98Kb ![]()
Polisi Casglu Amgueddfeydd Wrecsam - Fersiwn PDF 76Kb ![]()
Polisi Casglu Amgueddfeydd Wrecsam - Fersiwn Testun Plaen 79Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |