Pobl sy’n gweithio i neu gyda’r Cyngor yn aml yw’r cyntaf i sylweddoli y gall fod rhywbeth o’i le yn y Cyngor. Fodd bynnag, gallant deimlo nad ydynt yn gallu mynegi eu pryderon am eu bod yn teimlo y byddai tynnu sylw’n anffyddlon i’w cydweithwyr, rheolwyr neu i’r Cyngor. Gallant hefyd ofni tarfu arnynt neu gael eu herlid. Gallant bryderu ynghylch codi materion o’r fath neu gallant fod eisiau cadw’r pryderon iddynt eu hunain, efallai’n teimlo nad yw’n ddim o’u busnes neu nad yw ond yn amheuaeth. Gallant benderfynu dweud rhywbeth ond gweld eu bod wedi siarad â’r un anghywir neu wedi codi’r mater yn y ffordd anghywir a heb fod yn sicr beth i’w wneud nesaf.
Mae gan y Cyngor Bolisi Canu Cloch sy’n cynghori staff ac eraill sut i fynegi pryderon ynghylch gweithgareddau yn y gweithle.
Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i bawb o’r canlynol:
Os ydych yn gweithio i neu gyda’r Cyngor ac yn pryderu bod rhywbeth anghywir neu beryglus yn digwydd yn y gwaith, peidiwch â’i gadw i chi eich hun. Os na fyddwch yn dweud wrthym am bryderon sydd gennych ynghylch gweithgaredd troseddol, peryglon i ddiogelwch, neu ymddygiad amhriodol tuag at gleientiaid, y tebyg yw na chawn wybod nes bydd yn rhy hwyr.
Mae’r Polisi’n dweud wrthych sut i fynegi pryder.
Mae rhagor o arweiniad a gwybodaeth i’w cael ym Mholisi Canu Cloch, y Cyngor oddi wrth Trevor Coxon, Swyddog Arolygu, Ffôn 01978 292202, neu Gary Williams, Dirprwy Swyddog Arolygu, Ffôn 01978 292221
Mae’r gyfraith yn gwarchod gweithwyr sy’n mynegi pryderon yn ddiffuant. Felly, peidiwch â phryderu ynghylch bod dan anfantais o ganlyniad.
Ni fydd y Cyngor yn goddef erledigaeth nac aflonyddu ar neb sy’n mynegi pryder ynghylch drygioni gwirioneddol neu sy’n cael ei amau. Ar ôl i chi fynegi pryderon, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi a, ble bynnag y bo modd, yn gadael i chi wybod y canlyniad terfynol.
Mae’r Polisi Canu Cloch yn rhoi ffordd ddiogel a chydgyfrinachol i chi fynegi pryderon gwirioneddol. Defnyddiwch ef – peidiwch â gadael i ddrygioni fynd heb ei herio os oes rhywbeth y gallwch wneud yn ei gylch.
Polisi Canu Cloch
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Polisi Canu Cloch - Fersiwn PDF 111Kb ![]()
Polisi Canu Cloch - Fersiwn PDF 61Kb ![]()
Polisi Canu Cloch - Fersiwn Testun Plaen 387Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |