Mae Adran 41 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn rhoi dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Priffyrdd i gynnal y ffordd fawr, fel a ganlyn:-
“(1A) Yn arbennig, mae Awdurdod Priffyrdd o dan ddyletswydd i sicrhau, cyn belled ag sy’n ymarferol o fewn rheswm, na pheryglir teithio’n ddiogel ar hyd priffordd gan eira neu rew.”
1.2 Nid yw’r ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd absoliwt—yn hytrach, mae’n golygu cydbwyso’r elfen o risg yn erbyn y camau sy’n ofynnol i ddileu’r risg.
1.3. I ddarparu amddiffyniad statudol, rhaid wrth Bolisi Sirol ar wasanaethau cynnal a chadw dros y gaeaf, a ddylai gael ei adolygu’n rheolaidd.
1.4. Mae’r gofyniad i sicrhau bod awdurdodau’n cydymffurfio ag Adran 1.3 wedi cael ei bwysleisio mewn cyfarfodydd ar y cyd rhwng y chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru. Roedd hyn yn dilyn cwest y Crwner i’r digwyddiadau yn gysylltiedig â chynnal a chadw dros y gaeaf sydd wedi digwydd yn ardaloedd Awdurdodau Gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
1.5 Pennir y lefel o wasanaeth i Ffyrdd Sirol gan Aelodau etholedig pob Sir. Gwneir hyn drwy gynnal asesiadau risg i bennu hierarchaeth cost effeithiol o ffyrdd a thriniaethau. Cred yr Awdurdod fod y lefel o wasanaeth yn bodloni gofynion y dehongliad cyfredol o ‘ymarferol o fewn rheswm’ ond bydd yn parhau i adolygu’r ddarpariaeth gwasanaeth yn barhaus, gan roi sylw arbennig i unrhyw ddyfarniadau cyfreithiol. Cynhelir adolygiad o’r gweithrediadau Cynnal a Chadw dros y Gaeaf bob blwyddyn cyn tymor y Gaeaf
Polisi Gwasanaeth Gaeaf
Polisi Gwasanaeth Gaeaf - Fersiwn PDF 244Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.