Mae gwasanaethau teleofal yn cefnogi annibyniaeth pobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi trwy reoli o bell y peryglon a'r gweithgareddau sy'n cael eu perfformio a'u monitro yn amgylchedd y cartref. Gan hynny, mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae wrth annog pobl i ddewis lleoliad eu gofal ac i ddewis "aros yn eu hunfan" os mai dyna yw eu dymuniad.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cefnogi'r angen i ddefnyddio technoleg er mwyn darparu gofal iechyd a chymdeithasol yn fwy effeithlon. Mae'n cydnabod yr angen i ysgogi'r system er mwyn helpu i ailddyfeisio darpariaeth y gwasanaethau gofal. Mae Grant Cyfalaf Teleofal Cymru'n darparu cyfanswm o £8.92 miliwn ar gyfer prynu synwyryddion ac offer teleofal ledled Cymru. Cyfran Wrecsam o'r grant hwn yw £374,189 sy'n cwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2008 a'i fwriad yw rhoi cefnogaeth i dros 400 o bobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi gan ddefnyddio gwasanaeth teleofal.
Mae gwasanaeth teleofal newydd arfaethedig Wrecsam yn seiliedig ar rwydwaith mewnol ac adnoddau sydd eisoes ar gael trwy wasanaeth Galwad Gofal Wrecsam. Bydd hefyd yn manteisio ar arbenigedd y staff Therapi Galwedigaethol sydd wedi darparu eitemau technoleg gynorthwyol electronig i bobl â dementia am sawl blwyddyn er mwyn eu galluogi i aros yn ddiogel yn eu cartrefi yn hytrach na gorfod symud i sefydliad gofal yn rhy gynnar.
Cynigir y gwasanaeth newydd ar ddwy lefel:
Defnyddir y Grant Cyfalaf Teleofal i brynu'r offer sydd eu hangen yng nghartrefi defnyddwyr y gwasanaeth a phrynu adnoddau technegol a meddalwedd ychwanegol i gefnogi datblygiad y gwasanaeth. Caiff polisi taliadau newydd ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth teleofal yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd ag agendâu cenedlaethol a rhanbarthol. Bydd yn amodol ar gytundeb rhwng y partneriaid a bydd pob un yn darparu cefnogaeth ariannol a chefnogaeth arall sy'n cyd-fynd â lefel y budd i'w gwasanaethau. Cydnabyddir yr angen am gydlyniant gwasanaethau ac ymatebion lleol.
Strategaeth Y Gwasanaeth Teleofal ar gyfer Wrecsam
Strategaeth Y Gwasanaeth Teleofal ar gyfer Wrecsam - fersiwn PDF 545Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |