Datganiad
cyfamserol Gweithredu Llywodraeth ElectronegMae technoleg megis y rhyngrwyd yn galluogi i'r byd symud tuag at ddarparu gwasanaeth 24 awr y diwrnod, 7 niwrnod yr wythnos.
Mae pobl eisiau defnyddio gwasanaethau a gwybodaeth y tu hwnt i oriau traddodiadol swyddfa. Mae'r Cyngor yn derbyn y galw am newid, ac yn buddsoddi mewn technoleg i'w gwneud hi'n hawsach cysylltu â ni a'n gwneud yn fwy effeithiol. Er enghraifft mae pensiynwyr yn defnyddio cardiau SMART er mwyn teithio'n rhatach ar fysiau lleol, hysbysebir swyddi'r Cyngor a talu biliau ar-lein ar wefan y Cyngor.