Y Gofrestr Etholiadol

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y fersiwn lawn a'r fersiwn olygedig o'r Gofrestr Etholiadol?

Gofrestr lawn

Mae’r gofrestr lawn yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio.  Mae gan y Cyngor gopi.  Gall unrhyw un edrych arni, ond mae’n drosedd i gyflenwi neu ddefnyddio copïau i ddibenion heblaw'r rhai a nodir gan y gyfraith.  Ceir mwy o wybodaeth ar:  www.aboutmyvote.co.uk.

Prif ddiben y gofrestr lawn yw dangos pwy all bleidleisio mewn etholiadau a refferendwm.  Gall asiantaethau cyfeirio credyd ei defnyddio, ond ddim ond i wirio eich enw a’ch cyfeiriad os ydych yn gwneud cais am gredyd ac at ddibenion eraill a nodir gan y gyfraith.  Gellir ei defnyddio hefyd i orfodi’r gyfraith.

Gofrestr olygedig

Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol a gellir ei defnyddio ar gyfer unrhyw ddiben.  Gall unrhyw unigolyn, gwmni neu sefydliad brynu’r gofrestr olygedig a gellir ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol megis marchnata.  Os ydych am ddewis peidio â rhoi eich manylion yn y gofrestr olygedig, ticiwch y blwch 'Cofrestr olygedig'.  Rhaid i chi hefyd ofyn i bob unigolyn a enwir ar y ffurflen a ydynt am ddewis peidio â chael eu cynnwys ar y gofrestr olygedig.

yn ôl i'r brig