Caiff Etholiadau Cynghorau Lleol eu cynnal bob 4 blynedd. Bydd etholiad nesaf holl Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn digwydd ar ddydd Iau 1 Mai 2008. Bydd etholiadau’n cael eu cynnal hefyd ar yr un diwrnod ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn Wrecsam.
Bydd Rhybudd Etholiad yn cael ei gyhoeddi ar 17 Mawrth a hyn sy’n nodi dechrau proses yr etholiad. Bydd copïau o holl rybuddion pwysig yr etholiad yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.
Rhybudd Etholiad (Etholiadau Cyngor y Fwrdeistref Sirol)
Rydych yn ymgeisydd cymwys yn gyfreithiol:
Ni fyddech yn gymwys i fod yn ymgeisydd:
Mae angen enwebu ymgeisydd mewn etholiad ac mae angen datgan bod yr ymgeisydd yn cytuno â’r enwebiad.
Mae modd enwebu ymgeiswyr trwy blaid wleidyddol ond gallant sefyll yn eu rhinwedd eu hunain fel ymgeiswyr annibynnol. Yn ôl y gyfraith rhaid cyflwyno holl ffurflenni Enwebu cyn HANNER DYDD ar 4 Ebrill.
Mae’r Swyddog Canlyniadau’n annog holl ddarpar Ymgeiswyr i gyflwyno eu papurau Enwebu cyflawn mor gynnar ag y gallant er mwyn gallu cywiro unrhyw wallau mewn pryd. Mae rhestr o’r diwrnodau ac amseroedd pan fydd Ymgeiswyr yn gallu cyflwyno eu ffurflenni Enwebu yma:
Mae’r ffurflenni angenrheidiol a rhagor o gyfarwyddyd i’w cael oddi wrth y Gwasanaethau Etholiadol. Sefydlwyd rhif ffôn arbennig, 01978 292076, yn benodol fel bod Ymgeiswyr ac Asiantau’n gallu cysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Canllawiau'r Comisiwn Etholiadol i Ymgeiswyr (cyswllt allanol)
Bydd y pleidleisiau a fwriwyd yn cael eu gwirio ar ddiwedd y pleidleisio. Mae gwirio’n golygu gweld bod nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio perthnasol yn cyfateb i nifer y papurau a roddwyd allan mewn gorsaf bleidleisio arbennig. Bydd pleidleisiau’n cael eu cyfrif ar y diwrnod canlynol (2 Mai). Os cewch eich ethol byddwch yn cael gwybodaeth, ymhlith pethau eraill, am lofnodi eich datganiad derbyn swydd. Dyma rywbeth y byddwch yn GORFOD ei wneud cyn y gallwch weithredu fel cynghorydd.
Mae’r 'Rhybudd Etholiad' ar gyfer Etholiadau Cyngor y Fwrdeistref Sirol ar gael i’w lawrlwytho ar y ffurf ganlynol:
Rhybudd Etholiad - Cyngor y Fwrdeistref - fformat PDF 34Kb ![]()
I gymhwyso fel ymgeisydd rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol ar ddiwrnod eich enwebu ac ar ddiwrnod y bleidlais. Rhaid i chi:
Rhaid i un o leiaf o’r pedwar cymhwyster canlynol fod yn berthnasol i chi hefyd ar ddiwrnod eich enwebu ac ar ddiwrnod y bleidlais:
Ni fyddwch yn gymwys fel ymgeisydd:
Canllawiau Atodol y Comisiwn Etholiadol i Ymgeiswyr Cynghorau Cymuned (cyswllt allanol)
Bydd y Rhybudd Etholiad yn cael ei gyhoeddi ar 17 Mawrth a hyn sy’n nodi dechrau proses yr etholiad.
Mae angen enwebu ymgeisydd mewn etholiad ac mae angen datgan bod yr ymgeisydd yn cytuno â’r enwebiad.
Mae modd enwebu ymgeiswyr trwy blaid wleidyddol ond gallant sefyll yn eu rhinwedd eu hunain fel ymgeiswyr annibynnol. Yn ôl y gyfraith rhaid cyflwyno holl ffurflenni Enwebu cyn HANNER DYDD ar 4 Ebrill.
Mae’r Swyddog Canlyniadau’n annog holl ddarpar Ymgeiswyr i gyflwyno eu papurau Enwebu cyflawn mor gynnar ag y gallant er mwyn gallu cywiro unrhyw wallau mewn pryd. Mae rhestr o’r diwrnodau ac amseroedd pan fydd Ymgeiswyr yn gallu cyflwyno eu ffurflenni Enwebu yma:
Mae’r ffurflenni angenrheidiol a rhagor o gyfarwyddyd i’w cael oddi wrth y Gwasanaethau Etholiadol. Sefydlwyd rhif ffôn arbennig, 01978 292076, yn benodol fel bod Ymgeiswyr ac Asiantau’n gallu cysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r 'Rhybudd Etholiad' ar gyfer Etholiadau Cyngor y Fwrdeistref Sirol ar gael i’w lawrlwytho ar y ffurf ganlynol:
Rhybudd Etholiad - Theoliadau'r Cynghorau Cymuned - fformat PDF 40Kb ![]()
| Dyddiad | Amser |
|---|---|
| Dydd Llun 17 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mawrth 18 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mercher 19 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Iau 20 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mawrth 25 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mercher 26 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Iau 27 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Gwener 28 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2008 | 10.00am - 1.00pm |
| Dydd Llun 31 Mawrth 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mawrth 1 Ebrill 2008 | 9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mercher 2 Ebrill 2008 | 9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Iau 3 Ebrill 2008 | 9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Gwener 4 Ebrill 2008 | 9.00am - 12.00 canol dydd (terfyn amser) |
* Ben bore ac yn hwyr fin nos oddi allan i'r amseroedd hyn, trwy drefniant yn unig ar y dyddiadau penodol hyn. Cysylltwch â llinell gymorth ymgeiswyr ar 01978 292076 i gael y manylion.