Etholiadau sy'n Digwydd yn Eich Ardal

Sut fyddaf i’n gwybod pan fydd etholiad yn digwydd yn fy ardal? 

Os cofrestrwyd chi i bleidleisio, bydd gwasanaethau etholiadol yn anfon cerdyn pleidleisio atoch tua diwedd mis Mawrth yn dweud wrthych pan fydd etholiad yn digwydd ac ymhle a phryd y bydd angen i chi bleidleisio. Fodd bynnag, fe all fod rhai etholiadau lle nad oes neb yn ymladd ac, yna, byddwn yn ysgrifennu at holl etholwyr yr ardaloedd hyn i ddweud na fydd angen iddynt bleidleisio gan fod yr Ymgeiswyr wedi cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad.

Ystyr hyn yw nad oes mwy o ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys na nifer y seddau gwag ac y byddant yn cael eu datgan wedi’u hethol ac na fydd dim angen pleidleisio.

Gallwch ddod i wybod a oes etholiad i fod yn eich ardal trwy fynd i’r dudalen ‘Pwy syn sefyll yn fy ardal i?’. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi o gwmpas 8 Ebrill 2008.

Pryd mae’r etholiadau nesaf yn Wrecsam?

Mae etholiadau’n cael eu cynnal ymhob rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam i ethol cynghorwyr lleol i Gyngor y Fwrdeistref ac i holl Gynghorau Cymuned. Mae’r etholiadau’n cael eu cynnal ar ddydd Iau 1 Mai 2008.

Allaf i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol?

Gallwch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os ydych wedi cofrestru i bleidleisio mewn pryd i’r etholiad ac os ydych:

  • yn ddinesydd Prydeinig yn byw yn y DU
  • yn ddinesydd y Gymanwlad yn byw yn y DU
  • yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon yn byw yn y DU
  • yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y DU
  • wedi cofrestru i bleidleisio fel un o weision y Goron
  • wedi cofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr o’r lluoedd arfog

Ni allwch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os ydych:

  • yn ddinesydd Prydeinig yn byw dramor ac wedi’ch cofrestru fel etholwr tramor

Pwy sy’n sefyll i’w hethol?

Dylech ymweld â’r dudalen ‘Pwy sy’n sefyll yn fy ardal i?’ i weld pwy sy’n sefyll yn yr etholiadau lleol yn eich ardal. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi o gwmpas 8 Ebrill 2008.

Lle allaf i gael gwybodaeth am ymgeiswyr? 

Nid oes unrhyw ffynhonnell swyddogol ac, felly, dylech ymweld â gwefannau ymgeiswyr, gwefannau’r pleidiau, neu ysgrifennu at y blaid. Bydd rhestr ymgeiswyr sy’n sefyll ymhob ardal ar gael ar y tudalennau hyn. 

Sut mae cael gwybod beth yw enw fy AS? 

Gallwch ddod i wybod enw eich AS a chynrychiolwyr eraill ar y dudalen ‘Pwy sy’n fy nghynrychioli i?’ neu drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol.

yn ôl i'r brig