Os ydych dramor ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch wneud cais i bleidleisio naill ai drwy’r post neu trwy ddirprwy (cael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan).
Unrhyw un a gofrestrwyd i bleidleisio.
Gallwch ofyn i’r gwasanaethau etholiadol am ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post. Llenwch hi a’i dychwelyd i’r gwasanaethau etholiadol.
Gallwch wneud cais am un etholiad yn unig, am gyfnod penodol, neu am bleidlais barhaol drwy’r post.
Cyflwynodd Deddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006 fesurau newydd i wella sicrwydd pleidleisiau drwy’r post a thrwy ddirprwy. Ers 1 Ionawr 2007 mae gofyn i holl bleidleiswyr drwy’r post a thrwy ddirprwy yng Nghymru a Lloegr roi eu dyddiad geni a llofnod wrth wneud cais am bleidlais drwy’r post neu trwy ddirprwy.
Mae modd gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer y rhai sy’n methu llofnodi’r ffurflen. Cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd eich llofnod a’ch dyddiad geni’n cael eu gwahanu o’ch papur pleidleisio cyn ei wirio. Ni fydd rhoi’r wybodaeth hon yn effeithio ar gyfrinachedd eich pleidlais.
Mae’n drosedd cwblhau pleidlais drwy’r post nad yw’n perthyn i chi, a dylanwadu ar sut mae pobl eraill yn cwblhau eu pleidlais drwy’r post. Os oes gennych unrhyw honiadau o dwyll, dylid eu cyfeirio at yr heddlu.
Dylech dderbyn eich pleidlais bost tuag wythnos cyn yr etholiad. Os nad yw’n cyrraedd, gallwch gael papur pleidleisio newydd yn bersonol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael gwybodaeth.
Gallwch gael un newydd hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Rhaid i chi ei gasglu’n bersonol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Tŷ Dewi Sant, Ffordd Rhosddu, Wrecsam. Hefyd, bydd angen i chi ddychwelyd y papur pleidleisio a ddifethwyd a rhannau eraill y pecyn pleidleisio a anfonwyd atoch.
Gallwch gael papur pleidleisio newydd yn bersonol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.
Os ydych wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post, ni allwch bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio. Fodd bynnag, ar ddiwrnod yr etholiad gallwch ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post i’r orsaf bleidleisio (cyn 10pm) neu i’r gwasanaethau etholiadol yn ystod oriau swyddfa. Os nad ydych eisiau ei phostio neu’n rhy hwyr i’w phostio, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael gwybod ymhle mae eich gorsaf bleidleisio.