Canlyniadau

Sut mae’r cyfrif yn gweithio?

Y Swyddog Canlyniadau sy’n rheoli’r cyfrif yn lleol.

Mewn etholiadau lleol, trefn y ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’ sy’n penderfynu’r canlyniad. Mae hynny’n golygu mai’r ymgeisydd gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau sy’n cael ei ethol.

Mewn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mae tua thri chwarter y seddau’n cael eu neilltuo trwy’r drefn ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’. Rydych hefyd yn cael ail bleidlais ranbarthol dros Blaid. Mae pob Plaid yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyferpob rhanbarth etholiadol. Caiff gweddill y seddau eu neilltuo i ymgeiswyr ar y rhestri hynny yn ôl pa Blaid sy’n cael y pleidleisiau rhanbarthol mwyaf, a faint o seddau a enillodd y blaid honno eisoes. Gall unigolion sefyll fel ymgeiswyr rhanbarthol a chael eu trin fel petaent yn blaid gyda dim ond un enw ar eu rhestr. Enw’r dull pleidleisio hwn yw ‘System Aelodau Ychwanegol’.

Pryd fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi?

Bydd hyn yn dibynnu ar yr etholiad sy’n cael ei gynnal ond bydd y cyfrifon ar gyfer yr etholiadau lleol ar 1 Mai 2008 yn digwydd ar ddydd Gwener 2 Mai. Bydd canlyniadau etholiadau lleol mis Mai ar gael ar y wefan.

Beth am ailgyfrif?

Cyfrifoldeb y Swyddog Canlyniadau yw hyn ac mae’n dibynnu ar ba mor agos yw’r canlyniadau. Gall unrhyw ymgeisydd ofyn am ailgyfrif ond, fodd bynnag, gall y Swyddog Canlyniadau wrthod y cais hwn os yw o’r farn bod hyn yn afresymol.

yn ôl i'r brig