Gall milwyr a’u gwŷr, gwragedd, neu bartneriaid sifil sy’n gwasanaethu dramor gofrestru i bleidleisio trwy wneud datganiad Gwasanaeth. Mae angen i chi wneud cais am ffurflen. Rhaid i chi adnewyddu eich datganiad gwasanaeth bob tair blynedd.
Gallwch gofrestru yn y cyfeiriad lle byddech yn byw pe nad oeddech yn y Lluoedd Arfog neu ar gyfer cyfeiriad lle’r ydych wedi byw yn y gorffennol.
Mae angen i chi anfon eich datganiad Gwasanaeth i’r Gwasanaethau Etholiadol perthnasol i’r cyfeiriad lle dymunwch eich cofrestru.
Gall milwyr a’u gwŷr, gwragedd, neu bartneriaid sifil ddewis gwneud datganiad Gwasanaeth, neu gallant ddewis cofrestru i bleidleisio yn y ffordd draddodiadol.
Gall milwyr a’u gwŷr, gwragedd, neu bartneriaid sifil bleidleisio’n bersonol neu gallant ddewis pleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy.
Dim ond wythnos cyn diwrnod yr etholiad y bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu hanfon.
Os ydych yn byw dramor, gall fod yn well i chi benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan rhag ofn na fydd digon o amser i’ch pleidlais bost eich cyrraedd a’i hanfon yn ôl cyn i’r bleidlais gau.