Etholiadau Lleol 2012 – Noson Agored i Ddarpar Ymgeiswyr

Gyda dim ond 6 mis i fynd tan etholiadau nesaf y Cyngor Bwrdeistref Sirol, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnal Noson Agored i Ddarpar Ymgeiswyr, yma yn Neuadd y Dref, nos Lun, 23 Ionawr 2012 am 6.00 pm.

Mae ymgeiswyr mewn etholiadau yn aml yn deall y darlun ehangach o ran llywodraeth leol ond nid ydynt wastad yn deall sut mae awdurdodau lleol yn cael eu trefnu na rhai o ofynion ymarferol bod yn Gynghorydd.  Mae’n bwysig fod ymgeiswyr yn deall strwythur eu Cyngor a’i gyfrifoldebau i’r gymuned a, chyda hynny mewn golwg, rhoddwyd cymeradwyaeth dro yn ôl i Swyddogion y Cyngor drefnu Noson Agored i Ddarpar Ymgeiswyr i helpu i’w cyflwyno i fyd llywodraeth leol, a hynny cyn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

Wrth gymeradwyo’r cynnig hwn, teimlai’r Aelodau y dylai digwyddiad o’r fath, ymysg pethau eraill:-

  • ganolbwyntio ar y broses ethol ac anghenion cynghorwyr sydd newydd gael eu hethol;
  • archwilio’r pethau y mae angen i gynghorwyr newydd eu gwybod ar ddechrau eu gyrfa mewn bywyd cyhoeddus;
  • trafod rôl a chyfrifoldebau cynghorwyr fel cynrychiolwyr lleol;
  • egluro sut mae cynghorau’n gweithio a sut maent yn cael eu hariannu.

Er y bydd hwn yn ddigwyddiad anwleidyddol, byddwn yn gwahodd y pleidiau gwleidyddol i roi gwybod i’w darpar ymgeiswyr amdano fel y gallant fod yn bresennol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Os ydych yn ystyried sefyll yn yr etholiad nesaf a bod diddordeb gennych mewn canfod mwy am ffordd y Cyngor o weithio a’r broses ethol, mae croeso ichi ddod i’r Noson Agored. Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, ar hyn o bryd, cysylltwch â:

Peter Mullen, y Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau ac Aelodau,
Ffôn: 01978 292235 neu e-bost: peter.mullen@wrexham.gov.uk

neu

Trevor Coxon, Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid,
Ffôn: 01978 292202 neu e-bost: trevor.coxon@wrexham.gov.uk.

yn ôl i'r brig