Ar 15 Tachwedd 2012, am y tro cyntaf erioed, bydd pleidleiswyr Cymru a Lloegr yn ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a fydd yn atebol am y modd y mae heddluoedd yn mynd i'r afael â throsedd yn eu hardaloedd.
I gael dweud eich barn yn yr etholiad hwn, rhaid ichi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio.
Dyma'r etholiad cyntaf o'i fath yn y wlad hon a bydd y wefan hon yn rhoi ichi wybodaeth am swydd y Comisiynydd a sut y gallwch chi gymryd rhan yn yr etholiad.
Bydd y Comisiynydd a etholir yn gyfrifol am sicrhau bod y Prif Gwnstabl a Heddlu Gogledd Cymru yn atebol ar eich rhan. Bydd ef neu hi yn goruchwylio sut mae'r heddlu'n mynd i'r afael â throsedd yng ngogledd Cymru a bydd yn ceisio sicrhau bod yr Heddlu yn rhoi gwasanaeth da.
Am wybodaeth ynghylch ymgeiswyr yn eich ardal heddlu ewch I www.DewisFyNghHTh.org.uk neu galwch 0800 1 07 07 08
Hysbysiad Etholiad
Hysbysiad o Bleidleisio - Fersiwn PDF 19Kb ![]()
Hysbysiad Etholiad - Fersiwn PDF 54Kb ![]()
Hysbysiad o Benodi Asiantau Etholiad – IS ASIANT - Fersiwn PDF 18Kb ![]()
Hysbysiad o Enwau a Swyddfeydd Asiantiaid Etholiadol - Fersiwn PDF 16Kb ![]()
Gwaith comisiynydd yr heddlu a throseddu fydd sicrhau bod anghenion plismona eu cymunedau’n cael eu cwrdd mor effeithiol â phosibl, gan ddod â chymunedau’n agosach at yr heddlu, meithrin hyder yn y system ac adfer ymddiriedaeth.
Bydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf, ac yn rhoi i’r cyhoedd y gallu i sicrhau bod eu heddlu’n atebol.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch swydd comisiynydd yr heddlu a throseddu ynghyd â chyngor os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gael gan y Swyddfa Gartref (ffenestr newydd).
Mae gwybodaeth ar gyfer darpar ymgeiswyr ac asiantiaid yn yr etholiadau hyn ar gael gan y Comisiwn Etholiadol (ffenestr newydd).
Bydd y Comisiwn Etholiadol (ffenestr newydd) yn anfon llyfryn gwybodaeth i gartrefi ddiwedd mis Hydref/ dechrau Tachwedd gyda gwybodaeth am yr etholiad a sut i bleidleisio.
Ardal Heddlu Gogledd Cymru
Penodwyd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, yn Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (ardal gogledd Cymru). Mae hyn yn golygu ei fod yn gyfrifol am y modd y caiff yr etholiad yn ardal gogledd Cymru ei chynnal yn gyffredinol. Mae ef wedi penodi Gareth Owens, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i weithredu fel Dirprwy Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
Yn ogystal â Sir y Fflint, mae pum awdurdod arall yng ngogledd Cymru, sef Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Wrecsam. Dyma'r Swyddogion Canlyniadau ar gyfer yr ardaloedd hyn:-
| Richard Parry Jones | Cyngor Sir Ynys Môn |
| Iwan Davies | Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
| Mohammed Mehmet | Cyngor Sir Ddinbych |
| Colin Everett | Cyngor Sir y Fflint |
| Dilys Phillips | Cyngor Gwynedd |
| Helen Paterson | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
Os mai dim ond dau ymgeisydd sy’n ymgynnig yn yr etholiad, y system bleidleisio a ddefnyddir fydd y cyntaf i'r felin, fel sy'n digwydd yn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig. Os bydd mwy na dau ymgeisydd yn ymgynnig yn yr etholiad yna fe ddefnyddir y system bleidleisio atodol.
Llenwi’r papur pleidleisio (PDF 14KB ffenestr newydd)
Datganiad Am Y Personau A Enwebwyd (PDF 37KB ffenestr newydd)
Lleoliad Gorsafaoedd Pleidleisio (PDF 68KB ffenestr newydd)
Bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar ddydd Gwener, 16 Tachwedd gyda’r canlyniad terfynol ynghylch pwy sydd wedi dod yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf Gogledd Cymru yn cael ei gyhoeddi yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Kelsterton Road, Cei Connah gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Colin Everett.
Bydd y canlyniad yn ymddangos ar y wefan hon hefyd.
Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru – dilynwch y ddolen isod. www.nwalespa.org (ffenestr newydd)
I gael rhagor o wybodaeth am y math hwn o etholiad, sut i sefyll fel ymgeisydd, sut y caiff y pleidleisiau eu cyfrif etc, ewch i wefan y Swyddfa Gartref – dilynwch y ddolen isod www.homeoffice.gov.uk/police/police-crime-commissioners
Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru – dilynwch y ddolen isod www.nwalespa.org
Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd wedi cynhyrchu canllawiau i ymgeiswyr a'u hasiantau. Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol – dilynwch y ddolen isod. www.electoralcommission.org.uk
Os oes gennych ymholiadau penodol ynghylch cofrestru, hawl i bleidleisio, pleidleisio drwy ddirprwy/drwy'r post, cysylltwch â'ch Tîm Etholiadau lleol yn
Swyddfeydd Etholiadol
Ty Dewi Sant
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1NF
Ffôn: 01978 292020
Ebost: electoral@wrexham.gov.uk
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |