Yr Adran Gwasanaethau Etholiadol sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r Gofrestr Etholwyr flynyddol sy’n cynnwys pob un o’r trigolion sy’n gymwys i bleidleisio.
Bob blwyddyn, yn niwedd Awst a dechrau Medi, bydd y Cyngor Bwrdeistref yn anfon ffurflen Cofrestr Etholwyr i bob cartref yn y Sir. Ffurflen i’r cartref yw hon a dylid ei chwblhau a’i dychwelyd gan roi manylion o bob oedolyn a fydd yn byw yno ar 15 Hydref.
Gall cartrefi lle nad yw’r enwau wedi newid ers cofrestru o’r blaen ail gofrestru dros y ffôn a tecst neu ar y rhyngrwyd drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen.
Bydd y Gofrestr a fydd yn cael ei pharatoi o’r ffurflenni a ddychwelir, yn cael ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr.
Gan y bydd y gofrestr yn cael ei diweddaru’n fisol rhwng 1 Rhagfyr a’r 20 Awst y flwyddyn ddilynol gallwch gyflwyno cais i fynd ar y gofrestr ar unrhyw adeg.Gelwir hyn yn Gofrestru Treigl.
Gall rhai pobl erbyn hyn ofyn am gael eu cynnwys yn ddienw ar y gofrestr etholwyr. Er bod y gofrestr etholwyr mewn trefn strydoedd yn ôl yr wyddor ac nid mewn trefn enw mae rhai pobl yn teimlo y gallai bod ar y gofrestr etholwyr beryglu eu diogelwch e.e. pobl yn dianc oddi wrth drais teuluol neu’r rhai sydd â’u gwaith yn golygu y bydd raid iddyn nhw gadw eu hadnabyddiaeth yn breifat.
Os ydych yn ofni y byddech mewn perygl pe byddai eich enw’n ymddangos ar y gofrestr etholwyr gallwch ofyn am gael eich cynnwys yn ddienw ac os bydd eich cais yn cael ei dderbyn eich rhif pleidoleisio’n unig a fydd yn ymddangos a heb eich enw na’ch cyfeiriad. Gall unrhyw un yn byw gyda chi hefyd ofyn am gael ei gofrestru fel hyn.
Bydd gofyn i chi gwblhau un o’r ffurflenni isod gan roi’r rheswm pam y dylech gael eich cofrestru’n ddienw. Mae’n rhaid i chi yn ôl y gyfraith ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar ffurf gorchymyn neu waharddeb llys. Os nad oes gennych un o’r rhain yna yn ôl y gyfraith bydd raid i’ch cais gael ei gefnogi gan un o’r canlynol:
Prif Swyddog yr Heddlu mewn unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr; neu Prif Gwnstabl unrhyw heddlu yn yr Alban neu Wasanaeth yr Heddlu Gogledd Iwerddon
Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Diogelwch neu’r Asiantaeth Troseddau Difrifol wedi’u Trefnu.
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant neu Oedolion yn Lloegr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru neu Brif Swyddog Gwaith Cymdeithasol yn yr Alban.
Nid oes raid i’r swyddog cymwys fod yn yr un ardal â chi ond ni all y dogfennau priodol gael ei llofnodi gan swyddog is yn eu sefydliad.
I ofyn am gael cofrestru’n ddienw cysylltwch â’r Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol i ofyn am ffurflen neu llawr lwythwch y ffurflen isod.
Mae dwy fersiwn o’r gofrestr: y fersiwn LAWN a’r fersiwn wedi’i GOLYGU. Gallwch ddewis, pan fyddwch yn cwblhau eich ffurflen cofrestru etholwr, a ydych eisiau i’ch manylion gael eu cynnwys ar y gofrestr wedi’i golygu.
Mae’r gofrestr LAWN yn cynnwys enw pawb yn y Sir sydd â hawl i bleidleisio a dim ond ar gyfer rhai dibenion y medrir ei defnyddio, megis etholiadau, gorfodi’r gyfraith a chadarnhau eich adnabyddiaeth pan fyddwch yn gofyn am gredyd. Mae’n drosedd rhoi’r wybodaeth yma i unrhyw un arall neu ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer archwilio’r gofrestr lawn er mwyn sicrhau y gellir diogelu’r wybodaeth sydd ynddi. Erbyn hyn, dim ond o dan arolygaeth y gellir archwilio’r gofrestr lawn a hynny drwy drefniant o flaen llaw yn Ty Dewi Sant Ffordd Rhosddu, Wrecsam, yn unig. Mae’n drosedd gwneud copi, ac eithrio nodiadau mewn llaw ysgrifen. Gallai camddefnyddio data o’r gofrestr lawn arwain at ddirwy o hyd at £5,000.
Mae’r gofrestr wedi’i GOLYGU’n cynnwys enw pawb yn y Sir sydd â hawl i bleidleisio ac eithrio’r rhai sydd wedi dewis peidio â chael eu cynnwys ar y fersiwn hon o’r gofrestr drwy roi tic yn y blwch priodol ar y ffurflen gofrestru. Gall unrhyw un brynu’r gofrestr hon a’i defnyddio at unrhyw ddiben.
Yn gyffredinol, i gael ei gynnwys ar Gofrestr Bleidleisio, rhaid i berson fod:
Nid yw dinasyddion gwledydd eraill sydd yn preswylio yn y wlad yn gymwys i gofrestru o dan y gyfraith bresennol. Er engraifft: Tseina; Twrci; Unol Daleithiau America; Y Ffilipins a.y.b
NI FYDD priodi dinesydd Prydeinig na chymeradwyaeth i fyw'n barhaol yn y DU yn rhoi dinasyddiaeth Prydeinig na'r hawl i bleidleisio yn etholiadau'r DU.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a Dinasyddiaeth ewch i ymweld a gwefan Asiantaeth Ffin a Mewnfudiad www.ind.homeoffice.gov.uk.
Os ydych yn ddinesydd Prydeinig ac yn byw neu’n gweithio dramor gallwch fod â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol neu etholiadau Senedd Ewrop o’ch cyfeiriad cofrestredig diwethaf. I fod yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr tramor mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael eu cofrestru yn y DU o fewn cyfnod o 15 mlynedd.
Unwaith y byddwch wedi eich cofrestru fel pleidleisiwr tramor gallwch bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy mewn etholiadau Seneddol ac i’r Senedd Ewropeaidd.
Gallwch bleidleisio fel pleidleisiwr tramor os:
Am ffurflen cysylltwch â’r gwasanaeth cofrestru etholiadol.
Os ydych yn aelod o luoedd arfog Ei Mawrhydi, yn Was y Goron neu’n cael eich cyflogi gan y Cyngor Prydeinig gallwch ofyn am gael eich cynnwys ar y gofrestr drwy ddatganiad neu ar ffurflen gofrestru cartref fel pleidleisiwr yn y lluoedd. Anfonir ffurflenni adnewyddu dri mis cyn y dyddiad adnewyddu.
Os yw pleidleisiwr yn y lluoedd yn cofrestru fel pleidleisiwr ‘cyffredin’ yna mae mewn gwirionedd yn peidio â chael ei gofrestru fel un yn y lluoedd. Rhaid cyflwyno’r datganiad drwy adran berthnasol y llywodraeth neu’r Cyngor Prydeinig.
Gall aelodau o’r lluoedd arfog a’u priod gofrestru:
Cysylltwch â’r gwasanaeth cofrestru etholiadol i ofyn am ffurflen.
Nid yw’n bosibl cofrestru i bleidleisio dros y ffôn, rhyngrwyd neu tecst. Mae’n rhaid i’r cais gwreiddiol am bleidlais fod â llofnod yr ymgeisydd arno. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi cofrestru gallwch adnewyddu eich cofrestriad un ai dros y ffôn, ar y rhyngrwyd neu drwy anfon tecst.
Bydd y Cyngor yn cynnal ymgyrch cofrestru etholwyr bob blwyddyn yn ystod misoedd Medi, Hydref a Tachwedd. Anfonir ffurflen i bob cartref yn dangos yr enwau sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd yn y cyfeiriad hwnnw. Os yw manylion yr etholwyr a ddangosir yn mynd i aros yr un fath mae’n bosibl i’r person sy’n cwblhau’r ffurflen gadarnhau’r manylion hynny ar rif rhadffon, ar wefan neu tecst drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen.
Bydd gofyn i chi gael y ffurflen wrth law pan fyddwch yn gwneud hynny gan y bydd rhaid defnyddio’r rhifau diogeledd unigryw sydd ar bob ffurflen. Peidiwch ag anfon y ffurflen yn ôl os byddwch wedi cofrestru dros y ffôn, rhyngrwyd neu tecst– bydd hyn yn arbed costau post i’r Bwrdeistref Sirol.
Yn ogystal â galluogi pobl i gadarnhau eu manylion, bydd cofrestru dros y ffôn a’r rhyngrwyd yn golygu y gall y person hefyd gadarnhau manylion i ofyn am ffurflenni pleidlais bost a newid statws pleidleiswyr sydd ar y Gofrestr wedi’i Golygu ar hyn o bryd. Peidiwch â phoeni os byddwch yn gwneud camgymeriad wrth gadarnhau’r manylion dros y ffôn, rhyngrwyd neu tecst– gallwch ddal i gwblhau ac anfon yr wybodaeth ar y ffurflen bapur – bydd hyn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw wybodaeth a geir dros y ffôn neu’r rhyngrwyd.
Ffôn – Ffoniwch y rhif rhadffôn ar y ffurflen gofrestru a, phan fydd yn gofyn, pwyswch fotymau’r cyfeirnod 10 digid unigryw sydd ar y ffurflen.
Byddwch yn cael clywed bod y cofrestriad yn gyflawn, ac na ddylech ddychwelyd y ffurflen gofrestru.
Rhyngrwyd –Ymwelwch ag www.register-online.co.uk.
Pan fydd gofyn amdano, rhowch y cyfeirnod 10 digid unigryw a chyfrinair y Rhyngrwyd, fel yr argraffwyd ar y ffurflen.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i orffen cofrestru.
Tecst - Gallwch gadarnhau eich cofrestriad gyda Thestun SMS trwy decstio eich cyfeirnod 10 digid unigryw i 07624 802 252.
Byddwch yn cael neges testun yn ôl yn cadarnhau eich cofrestriad. (Prisiau rhwydwaith safonol yn berthnasol).