Hwn yw trydydd Cynllun Cydraddoldeb Hiliol y Sir ac mae’n weithredol dros y cyfnod 2008 – 2011.
Mae’r cynllun diweddaraf hwn yn gosod agenda’r Cyngor ar gyfer cydraddoldeb hiliol o 2008 i 2011 a’r trefniadau a wnaed gan y Cyngor i ymateb i’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol a roed ar gyrff cyhoeddus gan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2000.
Cryfhaodd Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2000 Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 gan osod dyletswyddau cydraddoldeb hiliol rhagweithiol yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus. Mae dwy ran I’r cynllun cydraddoldeb hiliol:
Mae’r cynllun hwn yn gosod allan sut y byddwn yn bodloni’r ddyletswydd cydraddoldeb hiliol ond yn bwysicach mae’n ein cynorthwyo i wella gwasanaethau a sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein cwsmeriaid a’n trigolion.
Mae cydraddoldeb hiliol yn allweddol i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da a gwell ansawdd bywyd i bawb. Mae’r ymgyrch tuag at gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus sy’n ddinesydd-ganolog yn cydnabod bod anghenion unigolion yn newid yn unol â’u hamgylchiadau penodol.
Mae arfer da yn dechrau trwy gydnabod, adnabod ac ymateb yn briodol i anghenion amrywiol y bobl yr ydym yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer.
Mae cydraddoldeb hiliol yn gyfnod o welliant parhaus ac rydym wedi dysgu llawer iawn ers cyhoeddi ein cynllun cyntaf yn 2002.
Rydym yn ddiolchgar iawn i lu o wahanol bobl sydd wedi rhannu’u barn a’u profiadau gyda ni ac wedi’n cynorthwyo i ddatblygu cynllun ystyrlon ac adnabod y meysydd i’w blaenoriaethu ar gyfer 2008 - 2011, a restrir isod.
Mae’r Cynllun wedi’i osod mewn dwy brif ran:
Mae’r cynllun yn elwa o reoli perfformiad cadarn a threfniadau craffu sydd yn ein galluogi i fonitro a mesur cynnydd dros gyfnod o amser.
Mae llwyddo yn ein hamcanion cydraddoldeb hil yn golygu gwneud cydraddoldeb yn gyfrifoldeb i bawb yn y sefydliad a chryfhau cydylltiadau mewnol ac allanol.
Mae gan y cynllun rôl bwysig i’n cynorthwyo i gyflawni ein hamcanion ehangach a bodloni anghenion trigolion, defnyddwyr gwasanaethau a chyfranddeilwyr.
Rydym wed sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir ac esbonnir hyn i’r holl staff drwy ein rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr.
Bydd Prif Weithredwr ac Aelodau Etholedig y Cyngor yn parhau yn allweddol bwysig wrth symud cydraddoldeb hiliol ymlaen ar draws yr holl sefydliad. Fodd bynnag, bydd yr holl staff ar bob lefel o’r sefydliad yn gwneud eu rhan i gyflwyno’r cynllun hwn.
Yn ymarferol golyga hyn
Hefyd mae gan y Cyngor Gynllun Cydraddoldeb Rhyw a Chynllun Cydraddoldeb Anabledd ar waith. Paratowyd pob cynllun i ymateb i ddyletswyddau cydraddoldeb hil, anabledd a rhyw ac maent yn cefnogi ein hymdrechion parhaus i annog dyletswyddau cydraddoldeb ac arfer da yn ein gweithrediadau, polisïau, cynlluniau ac arferion gwaith.
Yn y dyfodol, mae’n debygol y byddwn yn cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Unigol a fydd yn dod â’n cynlluniau ar gyfer pob maes cydraddoldeb at ei gilydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Rheolwr Cydraddoldeb ar 01978 292808 neu ebostiwch equality@wrexham.gov.uk.
Cynllun Cydraddoldeb Hiliol 2008 i 2011
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllun Cydraddoldeb Hiliol 2008 i 2011- Fersiwn PDF 735Kb ![]()
|
To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed. Link on the Adobe logo to download the software. Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Accessible Adobe® Reader. |
To view and print Microsoft Word files, you must either have Microsoft Word installed on your computer, or you can download free Microsoft Word Viewer software. Link on the logo to download the software |