Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cynllun Cydraddoldeb Rhyw

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyhoeddi ei gynllun cydraddoldeb rhyw cyntaf fel rhan o’i ymrwymiad i fodloni’r Dyletswydd Cydraddoldeb Rhyw sy’n rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2006.

Mae’r ddyletswydd yn gofyn i gyrff cyhoeddus fabwysiadu ymagwedd weithredol at gydraddoldeb rhwng merched a dynion, bechgyn a genethod.

Daeth Deddf Cydraddoldeb 2006 i rym ar 6 Ebrill 2007 gan ddiwygio a chryfhau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 a Deddf Cyflog Cyfartal 1970 ac mae’n rhoi dyletswydd benodol a chyffredinol ar gyrff cyhoeddus.

Mae tair rhan sy’n cydgysylltu i’r Ddyletswydd Gyffredinol ac mae’n amlinellu’r gofynion i gyrff cyhoeddus ystyried:

  • cael gwared ar wahaniaethu anghyfreithlon
  • cael gwared ar aflonyddwch
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng dynion a merched

Er mwyn cwrdd â’r Ddyletswydd Benodol mae’n rhaid i’r awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Rhyw erbyn 30 Ebrill 2007.  Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau mae’n rhaid i’r cyngor allu dangos a darparu tystiolaeth eu bod yn trin dynion a merched yn deg a'u bod yn gwneud cynnydd i ymdrin â’r anghydraddoldebau a’r gwahaniaethau a nodwyd.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Rhyw'r Cyngor yn cynnwys wyth prif amcan:

  1. Ystyried mabwysiadu’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer cydraddoldeb i ferched a dynion mewn bywyd lleol fel fframwaith ar gyfer datblygu ymagwedd y Cyngor at gydraddoldeb rhyw'r Cyngor yn yr hirdymor.
  2. Sicrhau bod aelodau o staff ar bobl lefel yn derbyn yr hyfforddiant priodol a’u bod yn ymwybodol o’u rôl a’u cyfrifoldebau wrth weithredu’r cynllun hwn a’r agenda cydraddoldeb ehangach.
  3. Sicrhau bod holl waith a gwasanaethau’r Cyngor yn hygyrch i ddynion a merched o bob oed ac yn rhydd rhag tueddiadau anghyfreithlon neu dueddiadau sy’n gwahaniaethu ar sail rhyw.
  4. Integreiddio cydraddoldeb rhyw fel rhan o waith a threfniadau archwilio’r cyngor wrth reoli gwaith contract a gwblheir ar ran y Cyngor.
  5. Sicrhau bod pob cyfle cyflogaeth yn hygyrch i ddynion a merched.
  6. Sicrhau nad yw strwythur cyflogau’r cyngor yn cynnwys rhagfarn ar sail rhyw. 
  7. Hyrwyddo amgylchedd diogel a chadarnhaol sy’n rhydd rhag aflonyddwch ac yn hyrwyddo urddas a lles merched a dynion wrth eu gwaith.
  8. Datblygu systemau effeithiol ar gyfer monitro cydraddoldeb rhyw.

Mae’r amcanion hyn yn rhoi ffocws i ymagwedd y Cyngor at gydraddoldeb rhyw am y tair blynedd nesaf (2007 to 2010) ac maent i’w gweld yn y cynllun gweithredu sy’n rhan o’r Cynllun.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Rheolwr Cydraddoldeb ar 01978 292808.

Yn anfodus, nid yw'r dogfen yma ar gael yng Nghymraeg.

Gender Equality Scheme

This document is available to download in the following format:

Gender Equality Scheme - Word version 179Kb

Gender Equality Scheme - PDF version 211Kb

Gender Equality Scheme - Plain Text version 812Kb

Gender Equality Scheme Feedback Form

This feedback form is available to download in the following format:

Disability Equality Scheme Feedback Form - Word version 56Kb

Disability Equality Scheme Feedback Form - PDF version 23Kb

Disability Equality Scheme Feedback Form - Plain Text version 110Kb


To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Download the free Acrobat reader from the Adobe website

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Adobe's Online conversion tools for Adobe PDF documents.



Once you have completed the feedback form please return to:

Equality Manager
Finance & Performance Department
Wrexham County Borough Council
Lambpit Street Offices
Wrexham
LL11 1AR

Tel: 01978 292808

 
English
 

Cyswllt i

Gydraddoldeb
Dweud Eich Dweud!
Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint