Partneriaeth ESF Wrecsam

Menter Gymunedol - Cyfartal

Mae Cyfartal yn Rhaglen Menter Gymunedol (CIP) Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae'r cynllun yn rhaglen arloesol a chyffrous sy'n profi arferion newydd ac yn cyfrannu at ddatblygu polisi hirdymor ledled Ewrop.

Mae CYFARTAL yng Nghymru yn rhan o flaengaredd Ewrop gyfan yn y DU gyda rheolaeth a chyfranogiad aml-asiantaeth ar wahân. Mae'n cynnwys 5 prif faes:

  • Cyflogadwyedd
  • Entrepreneuriaeth
  • Cymhwysedd
  • Cyfle Cyfartal
  • Ceiswyr Noddfa

Mae CYFARTAL yn dod â chwaraewyr allweddol yn ddaearyddol neu o sector penodol ynghyd; y weinyddiaeth gyhoeddus, sefydliadau an-llywodraethol, partneriaid cymdeithasol, a'r sector busnes i ffurfio 'Partneriaethau Datblygu', gan uno eu profiad a'u harbenigaeth amrywiol.

Mae gan Bartneriaethau Datblygu CYFARTAL amrywiol strategaethau a defnyddir i ddatblygu a phrofi ffyrdd newydd o ymdrin ag anffafriaeth ac anghydraddoldeb.

Pwy ydym ni?

Fel yr unig Raglen Gyfartal yng Ngogledd Cymru yn y rownd gyntaf, a gyda'r thema o 'Gyflagadwyedd', mae Cyfartal wedi bod yn weithgar wrth newid agweddau a dirnadaeth darparwyr gwasanaethau allweddol a chyflogwyr ers Tachwedd 2001.

Mae prif ffocws Cyfartal ar 'Awdurdodi'; rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at hyrwyddo newid agwedd o fewn Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae'r llyfryn hwn yn amlygu ein llwyddiannau, a bydd yn cael ei ddiweddaru'n barhaus hyd ddiwedd y prosiect ym mis Mai 2005.

Am wybodaeth bellach cysyllter â:

Kathryn Cramer,
Cydlynydd Cyfartal Gogledd Ddwyrain Cymru,
Blwch SP 1291,
Stryt y Lampint,
Wrecsam,
LL11 1WN.

Ffôn: 01978 292456
Ffacs: 01978 292445

  Lawr lwytho Llyfryn Menter Gymunedol CYFARTAL

Lawr lwytho Llyfryn Menter Gymunedol CYFARTAL - Fformat PDF 266Kb 

  Cysylltiadau defnyddiol

www.equal.ecotec.co.uk - gwybodaeth am fenter gymunedol CYFARTAL

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig

Cyswllt i

Hafan Ewropeaidd