Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Cyllid Ewropeaidd

 

Croeso i'r Porth Ewropeaidd

Europe Direct

Arolwg o Gyllid Ewropeaidd

Mae nifer o wahanol fathau o Gyllid Ewropeaidd ar gael ar gyfer ystod o ddibenion ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gelwir mwyafrif y cronfeydd a ddosberthir gan yr Undeb Ewropeaidd yn Gronfeydd Strwythurol. Mae tair Cronfa Strwythurol a fydd yn fanteisiol i Fwrdeistref Wrecsam a'r rhain yw ESF, ERDF, EAGGF.

Amcan 3

Mae nawdd o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yn rhan o Raglen Amcan 3 ac ar gael i gefnogi prosiectau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Ar y cyfan mae'r gronfa hon ar gyfer buddsoddi mewn pobl gyda'r nod o wella sgiliau a gwybodaeth unigolion er mwyn iddynt feddu ar well cyfle i gael gwaith neu waith mwy medrus.

Urban II

Roedd Rhaglen Urban II Gorllewin Wrecsam yn fenter adfywhau a ariennid gan Ewrop a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu cymuned gyfranogol ac entrepreneuraidd. Gwariwyd cyfanswm o £16miliwn (yn cynnwys £6.8 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) rhwng 2000 a 2006 i gefnogi busnesau newydd a busnesau sydd eisoes yn bodoli yng Ngorllewin Wrecsam er mwyn goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth.

CYFARTAL

Mae CYFARTAL yn Rhaglen i ogledd ddwyrain Cymru sy'n canolbwyntio ar Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ac sy'n ceisio hyrwyddo ffyrdd newydd o frwydro yn erbyn pob anffafriaeth ac anghydraddoldeb mewn perthynas â'r farchnad waith, drwy gydweithrediad traws-genedlaethol.

LEADER +

Ariennir LEADER + yn gyfan gwbl drwy'r Gronfa Gwarantau ac Arweiniad Amaethyddol Ewropeaidd (EAGGF), ac mae pob ardal wledig yn gymwys i wneud cais. Bydd y Rhaglen newydd yn rhan o'r fframwaith strategol a sefydlwyd gan y Cynllun Datblygu Gwledig, ac yn ategu at weithgareddau a ariennir fel rhan o Amcan 1, 2 a 3.

Amcan 2

Mae Rhaglen Amcan 2 yn un o flaengareddau Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer adfywiad economaidd o amgylch ardal y Waun, Dyffryn Ceiriog ac ardaloedd gwledig Llangollen. Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer y blaenoriaethau canlynol, Datblygu Mentrau Bach a Chanolig (SME) Cystadleuol a Chynaliadwy a Datblygiad Gwledig Cynaliadwy.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) - cyswllt i'r safle allanol

Prif amcan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yw sicrhau bod Cymru yn derbyn y manteision gorau posibl o Gronfeydd Strwythurol Ewrop yn ystod 2000-06. Mae'r swyddfa yn rhan o Grwp Datblygiad Economaidd a Chludiant Llywodraeth Cynulliad Cymru. Darperir y prosiectau ar y cyd gan ystod o gyrff yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

INTERREG III - cyswllt i'r safle allanol

Mae INTERREG III yn Flaengaredd Cymunedol Ewropeaidd sy'n hyrwyddo cydweithrediad traws genedlaethol ar gynllunio gofodol drwy annog datblygiad cytbwys a chytûn o dir Ewrop. Yr amcan yw sicrhau nad yw ein ffiniau cenedlaethol yn rhwystr i ddatblygiad cytbwys ac integreiddiad Ewrop, a chryfhau cydweithrediad er budd y naill a'r llall. Bydd y flaengaredd yn gweithredu rhwng 2000 - 2006.

Culture 2000 - cyswllt i'r safle allanol

Culture 2000 yw rhaglen gan yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei anelu'n benodol at y celfyddydau a diwylliant. Amcan y rhaglen Culture 2000 yw cyfrannu at hyrwyddo agwedd ddiwylliannol sy'n gyffredin i holl bobl Ewrop. Mae'n cefnogi cydweithrediad rhwng arlunwyr creadigol, gweithredwyr diwylliannol, hyrwyddwyr preifat a chyhoeddus.

Leonardio Da Vinci - cyswllt i'r safle allanol

Rhaglen hyfforddi galwedigaethol y Gymuned Ewropeaidd yw Leonardo da Vinci. Mae'n annog cydweithio rhwng mudiadau sydd ynghlwm wrth hyfforddiant galwedigaethol, gan geisio gwella ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir, datblygu sgiliau a mudoledd y gweithlu, annog arloesedd a chynyddu cystadleugarwch diwydiant Ewrop.

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau allanol.

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint