LEADER +

Gweithredir y rhaglen LEADER+ yn Wrecsam gan Gogledd Gororau Cymru, partneriaeth o sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau gwledig.

Amcan Gogledd Gororau Cymru yw datblygu galluoedd cymunedau gwledig Wrecsam i adfywio eu gweithgaredd amgylcheddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol.

Mae'r rhaglen LEADER+ yn profi ymagweddau arloesol i ddatblygu economi ardal wledig Wrecsam. Mae Gogledd Gororau Cymru yn gweithredu ystod o brosiectau sy'n seiliedig yn y gymuned er mwyn cynyddu gweithgaredd economaidd yr ardaloedd gwledig. Mae'r prosiectau hyn yn cydweithio â'r gymuned leol i ddefnyddio adnoddau naturiol a diwylliannol yr ardaloedd yn well drwy weithgareddau a fydd yn dod â manteision i'r ardal ym mhell ar ôl i LEADER+ ddod i ben yn 2006.

Mae'r rhaglen yn cefnogi datblygu atyniadau a gweithgareddau twristiaeth yn y gymuned yn arbennig, ynghyd â chefnogaeth ar gyfer digwyddiadau a gwyliau. Daw y broses hon ag incwm twristiaeth i'r ardaloedd gwledig a helpu i gynnal cyfleusterau gwledig megis siopau a gwasanaethau.

Am wybodaeth bellach cysyllter â Gogledd Gororau Cymru ar 01978 298381 neu ebostiwch: nmc@wrexham.gov.uk

Gwybodaeth mwy am Gogledd Gororau Cymru a LEADER+.

yn ôl i'r brig