Mae nifer o wahanol fathau o Gyllid Ewropeaidd ar gael ar gyfer ystod o ddibenion ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Adnabyddir mwyafrif y cronfeydd sydd ar gael gan yr Undeb Ewropeaidd fel Cronfeydd Strwythurol. Mae'r cronfeydd hyn yn darparu cymorth grant ar gyfer prosiectau sy'n gweithio tuag at adfywiad economaidd y Fwrdeistref. Y tair cronfa strwythurol a fydd o fantais i Fwrdeistref Wrecsam yw:Amcan ERDF yw lleihau anghydbwysedd rhanbarthol a chynorthwyo prosiectau sydd angen buddsoddiad cyfalafol o ran adeiladau newydd a chyfleusterau cymunedol ayb.
Mae'r gronfa hon yn bennaf ar gyfer buddsoddi mewn pobl gyda'r nod o wella sgiliau a gwybodaeth unigolion er mwyn iddynt feddu ar well cyfle i gael gwaith neu waith mwy medrus . Mae hefyd yn ymdrin â chyfle cyfartal a hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Bydd felly yn ariannu cyrsiau hyfforddi, rhaglenni sgiliau sylfaenol ayb.