|
Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn ymarfer cydweddu data sy'n helpu i ganfod taliadau twyllodrus a gwallus o bwrs y wlad ledled y Du.
Ymarfer paru data yw Menter Twyll Cenedlaethol sy’n helpu adnabod taliadau twyllodrus a gwallus o gronfeydd cyhoeddus ledled y DU.
Dechreuodd Menter Twyll Cenedlaethol (MTC) yn 1996, ac mae nawr yn cael ei gynnal bob dwy flynedd. Mae’n helpu cyfranogion o lywodraeth leol, llywodraeth ganolog a’r GIG i adnabod twyll a chamgymeriadau.
Er 1996, mae dros £11.5 miliwn o daliadau twyllodrus a gwallus wedi eu hamlygu yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys budd-daliadau tai, taliadau bnthyciadau myfyrwyr a phensiwn. Cymerodd saith deg o sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus ran yn yr ymarfer MTC diwethaf. Roedd MTC 2006/07 wedi amlygu taliadau twyllodrus a gwallus gwerth £4.5 miliwn, a chafwyd 26 erlyniad llwyddiannus.
Cyhoeddwyd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol “Menter Twyll Cenedlaethol yng Nghymru 2006/2007: Crynodeb o Ganfyddiadau” yn dilyn yr ymarfer diweddaraf, ac mae’n darparu trosolwg o’r canlyniadau ac mae’n cynnwys astudaiethau achos sy’n cyfleu’r mathau o dwyll a thaliadau gwallus a ddatgelwyd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kate Febry (Cydgysylltydd MTC Swyddfa Archwilio Cymru) ar 029 2032 0616.
Mae prosesau
- Mae'n ofynnol i'r awdurdod hwn yn unol â'r gyfraith ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Caiff rannu gwybodaeth a roddir iddo â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
- Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n penodi'r archwilydd i archwilio cyfrifon yr awdurdod hwn. Mae hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data.
- Mae prosesau paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall. Gwybodaeth bersonol yw'r data fel arfer. Mae prosesau paru data cyfrifiadurol yn ei gwneud yn bosibl adnabod ceisiadau a thaliadau twyllodrus. Pan gaiff data ei baru mae'n dynodi bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.
- Ar hyn o bryd mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod hwn ddarparu gwybodaeth sydd ganddo at y diben hwn. Mae'n ofynnol i ni roi setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol i'w paru ar gyfer pob ymarfer, a nodir y rhain yn llawlyfrau'r Archwilydd Cyffredinol, y gellir eu gweld yn www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp.
- Defnyddir data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data ag awdurdod statudol fel rhan o'i bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 1998. Nid oes angen caniatâd yr unigolion perthnasol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
- Mae prosesau paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Mae ar gael yn www.wao.gov.uk.
- I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau pam mae'n paru gwybodaeth benodol, ewch i www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp neu cysylltwch â Katrina Febry, Cydgysylltydd y Fenter Twyll Genedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ, 029 2032 0616 neu anfonwch e-bost at infoofficer@wales.gov.uk
|