Gwiriadau
Beth yw'r fframwaith gwirio a sut mae'n gysylltiedig â thwyll?
Cyflwynwyd y Fframwaith Gwirio fel rhan o Raglen Adfer Lles y Llywodraeth. Mae'n ceisio lleihau gwastraff a thwyll trwy osod allan safonau o dystiolaeth a gwiriadau ar gyfer hawliadau budd-daliadau tai a threth y cyngor.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut mae'n gweithio?
Fel rhan o raglen ymweld y Fframwaith Gwirio, bydd pawb sy'n hawlio budd-dal tai neu dreth y cyngor yn cael ymweliad yn eu cartrefi'n rheolaidd. Mae'n bosibl y cysylltir â nhw dros y ffôn neu drwy'r post hefyd i gadarnhau manylion eu hawliadau.
Gellir gofyn iddynt brofi:
- Pwy ydynt
- Ble maent yn byw
- Aelodau eraill sy'n byw yn yr un eiddo
- Costau tai
- Incwm
- Cyfalaf
- Unrhyw newid amgylchiadau a allai effeithio ar eu hawliad
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Os hawliaf fudd-dal sut mae'n rhaid i mi gydymffurfio â'r Fframwaith Gwirio?
- Rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen hawlio
- Rhaid i chi ddarparu'r holl dystiolaeth y gofynnir amdani
- Rhaid i chi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid llungopïau
- Rhaid i chi gyflenwi unrhyw wybodaeth ychwanegol ofynnol
- Rhaid i chi sôn yn brydlon am unrhyw newid yn eich amgylchiadau neu'r rhai sy'n byw gyda chi
- Rhaid i chi gydweithredu â swyddogion ymweld y Cyngor a'r gwiriadau post a ffôn
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw dyletswyddau a chyfrifoldebau'r Is-Adran Gwiriadau?
- Copïo a dychwelyd eich dogfennau mewn ffordd gyfrinachol a diogel
- Gwirio'r wybodaeth a ddarparwch
- Rhoi cymorth a chyngor i bawb sy'n hawlio a sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau sy'n gymwys iddynt
- Ymweld â hawlwyr yn eu chartrefi a gwirio drwy'r post a dros y ffôn
- Lleihau gwastraff a thwyll
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
|