Rolau'r & Swyddogaethau'r Maer

Rolau'r Maer

  • Gweithredu fel symbol i'r Awdurdod a'r ardal. Fel prif ddinesydd, mae'r Maer yn cynrychioli Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyd ac yn gweithredu fel symbol o barhad;

  • Gweithredu fel cyswllt rhwng y Cyngor a dinasyddion y Fwrdeistref Sirol, fel arwydd o gydlyniad cymdeithasol;

  • Gan fod y prif ddinesydd yn cael ei ethol o fewn Aelodau'r Cyngor beth bynnag fo'i ddosbarth, ei ryw a'i gefndir ethnig, mae'r Maer yn symbol o gymdeithas agored;

  • Gweithredu fel canolbwynt mewn achosion o argyfwng, trasiedi neu fuddugoliaeth.

Swyddogaethau'r Maer

  • Llywyddu yng nghyfarfodydd y Cyngor a bwrw pleidlais pan fo nifer y pleidleisiau yn gyfartal;

  • Ac eithrio ym mhresenoldeb Ei Mawrhydi'r Frenhines ac aelodau o'r teulu brenhinol (gan gynnwys yr Arglwydd Raglaw sy'n cymryd ei swydd ef/hi) i gael blaenoriaeth mewn unrhyw ddigwyddiad yn y Fwrdeistref Sirol;

  • Llywyddu mewn digwyddiadau dinesig

yn ôl i'r brig