Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

12 Ionawr 2012

Ffordd wedi Cyrraedd Haner Ffordd

Mae mwy na hanner y cyfnod adeiladu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Cynllun Ffyrdd Mynediad Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam wedi mynd heibio erbyn hyn. Bydd Aelodau Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn cael cyflwyniad ar ddechrau Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth nesaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynnydd hyd yma.

Disgwylir i’r rhan ddeheuol - o Cross Lanes i Five Fords – gael ei gwblhau gryn dipyn yn gynt na’r rhaglen. Mae’r rhan ogleddol yn mynd yn ei blaen yn unol â’r disgwyl ac mae’n debygol o gael ei chwblhau cyn Awst 19eg eleni.

Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd o fewn gyllideb ar hyn o bryd.

Mae Cynllun Ffyrdd Mynediad yr Ystâd Ddiwydiannol yn cynnwys dwy ffordd fynediad ar wahân.

Mae’r gyntaf, y ffordd ogleddol, yn rhedeg o gylchfan Borras yn y gogledd hyd at gylchfan Lôn y Bryn yn y de, lle mae’n cysylltu â ffordd gylchol yr Ystâd wrth ymyl ffatri JCB. Mae’r ffordd hon oddeutu 3.2km neu 2 filltir o hyd ac mae’n ffordd ddeuol ar ei hyd.

Yn ail, mae’r ffordd ddeheuol, sy’n rhedeg o’r A525 yn Cross Lanes yn y de hyd at yr Ystâd yn Five Fords. Mae’r ffordd hon oddeutu 1.2 km, neu ¾ milltir o hyd a ffordd unffrwd yw hi, ar wahân i’r darn byr rhwng y ddwy gylchfan arfaethedig yn Five Fords.

Birse Civils Ltd yw’r Prif Gontractwr. Partner dylunio Birse Civils yw Gifford, rhan o Ramboll.

Yr elfen allweddol yn y rhaglen ar gyfer y rhan ogleddol oedd adeiladu’r hyn a fydd yn y pen draw yn droedffordd/llwybr beicio/mynedfa amaethyddol ochr yn ochr â’r A534 Ffordd Holt. Ers i drefn y traffig gael ei newid ar 22ain Hydref y llynedd, mae holl draffig yr A534 Ffordd Holt erbyn hyn yn rhedeg ar y llwybr hwn dros dro, sy’n golygu fod modd gweithio ar ffordd ddeuol barhaol yr A534 heb unrhyw draffig.

Ddydd Mawrth bydd yr awyrluniau diweddaraf yn cael eu dangos i’r Aelodau hefyd. Maent yn dangos y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yma ar ffyrdd mynediad y gogledd a’r de.

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

“Rwy’n falch iawn o weld y cynnydd da sy’n digwydd ar Gynllun Ffyrdd Mynediad yr Ystâd Ddiwydiannol, ac edrychaf ymlaen at gwblhau ffordd y gogledd a ffordd y de cyn diwedd yr haf eleni. Byddant yn gwella mynediad i’r Ystâd Ddiwydiannol yn fawr, gan gynnig mynediad o safon uchel af ffordd ddeuol yr holl ffordd o’r A483 yn y gogledd hyd at y ffordd gylchol yn Lôn y Bryn, ynghyd â llawer gwell mynediad o’r A525 yn Cross Lanes yn y de hyd at yr Ystâd yn Five Fords.

Bydd hyn yn help i wneud yr Ystâd Ddiwydiannol yn fwy deniadol i fewnfuddsoddwyr ac yn helpu’r busnesau sydd yno’n barod i fod yn fwy cystadleuol. Bydd yr amser a gymer siwrneiau i’r Ystâd ac oddi yno yn fwy dibynadwy i ddiwydianwyr a gweithwyr fel ei gilydd.”

yn ôl i'r brig