Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
10 Chwefror 2012


Mae'r gwaith adeiladu ar Gynllun Ffyrdd Mynediad Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam wedi cyrraedd carreg filltir arall yr wythnos hon, pan roddwyd y trawstiau ar bont ffordd fynediad y Chwarel Tarmac newydd ar Ffordd Holt, yn rhan o'r ffordd fynediad ogleddol.
Mae hwn yn gam allweddol ar gyfer symud y gwaith yn ei flaen oherwydd drwy gwblhau’r bont newydd bydd modd cwblhau’r darn newydd o ffordd ddeuol A534 Ffordd Holt rhwng Cylchfan Ffordd Holt a Chylchfan newydd Plas Gourton.
Yr wythnos hon yw Wythnos Rhif 39 o’r cyfnod adeiladu 66 wythnos, a gychwynnodd ar Fai 16eg y llynedd.
Mae’r gwaith yn dal i fod ar amser i orffen y gwaith sifil erbyn y dyddiad cwblhau swyddogol ym mis Awst eleni. Yn wir, mae’n ymddangos bod y darn deheuol – o Cross Lanes i Five Fords – yn mynd i gael ei gwblhau’n llawer cynharach na’r dyddiad cwblhau swyddogol, ac mae’r darn gogleddol hefyd ychydig ar y blaen i’w amserlen.
Mae’r cynllun, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, o fewn y gyllideb hefyd ar hyn o bryd.
Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant:
"Mae datblygiad y gwaith hyd yn hyn yn rhagorol a gwn fod pawb yn edrych ymlaen at y manteision a ddaw gyda chael gwell ffyrdd mynediad at sefydliadau a chyflogwyr ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.”
Mae gan Gynllun Ffyrdd Mynediad yr Ystâd Ddiwydiannol ddwy ffordd fynediad amlwg.
Yn gyntaf mae’r ffordd ogledddol sy’n rhedeg o gylchfan Borras yn y gogledd i gylchfan Lôn Bryn yn y de, lle mae’n cysylltu gyda chylchffordd yr Ystâd gerllaw’r ffatri JCB. Mae’r darn yma o ffordd oddeutu 3.2km neu 2 filltir o hyd ac mae’n ffordd ddeuol i gyd.
Yn ail, mae’r ffordd ddeheuol sy’n rhedeg o’r A525 yn Cross Lanes yn y de i’r Ystâd yn Five Fords. Mae’r ffordd yma oddeutu 1.2km neu ¾ milltir o hyd ac mae’n ffordd unffrwd, heblaw am y darn byr rhwng y mannau lle bwriedir rhoi dwy gylchfan Five Fords.
Prif Gontractiwr y Gwaith yw Birse Civils Cyf. Partner cynllunio Birse Civils yw Gifford, sy’n rhan o Ramboll.
Ers mis Hydref y llynedd, mae holl draffig Ffordd Holt, yr A534, wedi bod yn teithio dros dro ar yr hyn a ddaw yn y pen draw yn gyfuniad o lwybr troed, mynedfa amaethyddol a llwybr seiclo, gan olygu bod modd gwneud y gwaith presennol ar ffordd ddeuol barhaol y A534 heb draffig arni.
Drwy gwblhau’r bont ffordd sy’n fynedfa i’r Chwarel Tarmac, bydd modd cwblhau’r elfen allweddol hon o’r daith ogleddol. Bydd defnyddwyr ffyrdd a thrigolion yn ardal Ffordd Holt wedi gweld bod y gwaith cloddio ar gyfer y darn yma’n datblygu’n dda dros y misoedd diwethaf.