Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

27 Gorffennaf 2012

Digwyddiadau Haf ym Mharc Acton

Fe gynhelir pedwar digwyddiad i blant a theuluoedd ym Mharc Acton yn ystod gwyliau’r haf. Cafodd y digwyddiadau hyn eu trefnu gan Rachel Davies, Rhodiwr Tymhorol, sy’n gweithio ym Mharc Acton dros fisoedd yr haf. Mae ei swydd wedi cael ei hariannu trwy garedigrwydd Cyngor Cymuned Acton.

Y digwyddiad cyntaf sy’n mynd i gael ei gynnal yw Llwybr Anifeiliaid haf ar ddydd Iau Awst 2il rhwng 1pm-3pm, a gall plant o bob oedran fynd ati i ddilyn y llwybr o gwmpas y parc er mwyn chwilio am y cyfeillion o anifeiliaid sydd i’w cael yn Acton.

Sesiwn chwaraeon a gemau hwyliog fydd yr ail ddigwyddiad a gynhelir rhwng 1pm a 3pm ar ddydd Gwener Awst 10fed. Mae croeso i blant 8-14 oed ddod i’r sesiwn hon ac fe gânt gyfle i chwarae amrywiaeth o chwaraeon a gemau.

Ar ddydd Mercher Awst 22ain, rhwng 12pm a 3.30pm bydd Hwylddydd yn cael ei gynnal ac mae croeso mawr i deuluoedd ddod draw i ymuno yn yr amryw weithgareddau hwyliog a fydd yn mynd rhagddynt yn ystod y prynhawn. Caiff y digwyddiad hwn ei gefnogi gan Gyfeillion Parc Acton.

Y digwyddiad olaf a gynhelir yn y parc dros yr haf yw sesiwn celfyddyd a chrefft ynghylch natur ar ddydd Iau Awst 30ain, rhwng 1pm a 3pm. Mae’r digwyddiad hwn yn addas i blant 5-14 oed a gallant gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau crefft trwy ddefnyddio defnyddiau naturiol.

Digwyddiadau am ddim yw pob un o’r rhain ac nid oes rhaid cadw lle ymlaen llaw; bydd pawb yn cyfarfod wrth y lle chwarae i’r babanod yn y parc. Dylai pob plentyn sy’n dod i’r digwyddiadau, fod yng nghwmni oedolyn.

yn ôl i'r brig