Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
03 Ionawr 2012
Gwobr Bwysig i Glwb Athletig WrecsamMae Cyngor Wrecsam a Chlwb Athletig Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill gwobr bwysig yn seremoni wobrwyo Athletau Aviva UK yn Llundain. Cafodd y clwb yr anrhydedd o dderbyn Gwobr Partneriaeth Clwb Athletau'r DU am ei gysylltiad agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r ddwy ochr wedi datblygu perthynas weithio llwyddiannus dros amryw o flynyddoedd ac o ganlyniad bydd Clybiau Athletig yn hyfforddi yn Stadiwm Queensway ddwy noswaith yr wythnos yn ogystal â chynnal digwyddiadau pwysig gan gynnwys y Bencampwriaeth Rasys Dan 17/dan20 oed gydag Athletau Cymru a gemau Cynghrair Hŷn Gogledd Lloegr.
Mae Tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Wrecsam wedi gweithio’n agos iawn gyda Chlwb Athletau Wrecsam i gael cyllid o Gist Gymunedol Chwaraeon Cymru ar gyfer recriwtio ac addysgu hyfforddwyr, cynorthwyo gydag integreiddio digwyddiadau arbennig Grŵp Olympaidd yn y calendr chwaraeon a gwaith ag ysgolion a chyrff addysg bellach.
Dywedodd Ysgrifennydd Clwb Athletau Wrecsam, Bob Frost:
“Enillodd Wrecsam gystadleuaeth frwd o Rydychen a Glasgow yn dilyn tymor athletau llwyddiannus iawn a’n buddugoliaeth yng Ngwobrau Athletau Cymru yn gynharach eleni.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â Chlwb Athletau Wrecsam a diolcha swyddogion Cyngor Wrecsam iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad i wneud ein clwb a’n partneriaeth yn llwyddiant ysgubol.”
Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton OBE, Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Pherfformiad:
“Mae derbyn Gwobr Partneriaeth Clwb Athletig y DU yn newyddion ardderchog ac yn esiampl dda o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio er budd datblygu chwaraeon yn Wrecsam.
“Mae Cyngor Wrecsam yn ymrwymedig i wneud Wrecsam yn lle iach ac egnïol i fyw lle ceir sawl cyfle da i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ei hanfod ac ar lefelau perfformio.”
Roedd y gwobrau’n dathlu Athletau Prydain ac yn cydnabod y gweithlu gwirfoddol, y clybiau, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion ac roedd cydweithio hefyd yn cael ei wobrwyo ar y noson.