Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
09 Rhagfyr 2011
Bydd Parc Bellevue yn cynnal cyngerdd carolau o lwyfan y band dydd Iau’r 15fed o Ragfyr. Mae’r digwyddiad ymlaen o 5 o’r gloch y pnawn tan 6.
Mae croeso i bawb ymuno â’r canu, a bydd taflenni carolau ar gael ar y noson. Ni fydd tâl ar gyfer y digwyddiad. Cewch fwy o wybodaeth trwy gysylltu â Swyddog y Parc, Richard Aram ar 01978 264150 neu bellevue.park@wrexham.gov.uk.