Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
21 Mehefin 2012
Mae’r gyfres gyngherddau boblogaidd, ‘Cyngerdd yn y Parciau’, yn dychwelyd dydd Gwener yma.
Caiff y cyngherddau eu trefnu gan Adran Parciau a Chefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cynhelir pob un ohonynt yn y Bandstand Edwardaidd yn y Parciau, sy’n agos at Ganol Tref Wrecsam.
Eleni mae pum cyngerdd, yn ymestyn o ganol Mehefin i ddechrau Awst. Bydd pob cyngerdd yn digwydd ar nos Wener, gan gychwyn am 7pm. Mae manylion y cyngherddau fel a ganlyn.
Dydd Gwener 22ain Mehefin - Freedom Rider
Mae Freedom Rider yn chwarae cymysgedd cyffrous o ganeuon gan amryw o artistiaid gwahanol. Maent yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon, blues a soul yn bennaf, gan ddarparu adloniant i’r ifanc a’r hen.
Dydd Gwener 6th Gorffennaf - Billy Thompson Gypsy Style
Yn ymddangos eto oherwydd y galw amdanynt, mae pumawd jazz hynod dalentog Billy Thompson Gypsy Style yn perfformio cymysgedd o draciau Hot Club a anfarwolwyd gan Stephane Grappelli a Django Reinhardt, alawon tanllyd o Hwngari ac anthemau sipsiwn. Ac yntau wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerddor Jazz Ifanc y Flwyddyn drwy’r Deyrnas Unedig, mae’r feiolinydd Billy Thompson wedi teithio Ewrop a Japan gyda Barbara Thompson’s Paraphernalia
Dydd Gwener 20fed Gorffennaf - The Big Beat
Mae The Big Beat yn un o’r bandiau parti mwyaf cyffrous a chaboledig yn y Deyrnas Unedig heddiw. Mae’r grŵp bywiog pedwar darn hwn eisoes wedi cyffroi cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’i gymysgedd eclectig o roc, soul, pop a blues. Mae wedi ymddangos ar raglenni teledu a radio o fri ac wedi gweithio gyda sêr fel James Corden, Diana Vickers a The Kooks. Yn ddiweddar bu’n perfformio’n fyw mewn digwyddiadau chwaraeon mawr mewn mannau fel Stadiwm Wembley, Old Trafford a Stadiwm y Mileniwm. Mae The Big Beat yn chwarae ystod amrywiol o gerddoriaeth ac rydych yn siŵr o gael noson arbennig.
Dydd Gwener 27ain Gorffennaf - The Gramophone Four + Five
Band bach sy’n creu sŵn band mawr yw’r ffordd y bydd yr arweinydd, Bill Basey, yn disgrifio’i act. Mae’r band yn cynnig noson safonol o gerddoriaeth.
Dydd Gwener 10fed Awst - Tobacco Road
Un o’r bandiau cyntaf i chwarae mewn digwyddiad Cerddoriaeth yn y Parciau tua 10 mlynedd yn ôl. Mae Tobacco Road yn dal yn un o’r bandiau lleol mwyaf poblogaidd, yn chwarae cymysgedd egnïol o draciau clasurol sy’n plesio pob oedran.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyngherddau, cysylltwch â’r Parciau ar 01978 264150 neu anfonwch e-bost at: bellevue.park@wrexham.gov.uk.