skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


07 Awst 2008

Diweddariad - Newidiadau i Gasgliadau'r Biniau

Mae Cyngor Wrecsam yn datgan y bu cynnydd da yn y newidiadau i gasgliadau’r biniau yn dilyn adolygiad o’r casgliadau a olygodd bod 60% o gartrefi yn newid eu diwrnod bin. Yr wythnos nesaf gofynnir i bob cartref wirio eu calendrau newydd am fanylion y bin a gesglir. Dylai unrhyw un sydd heb dderbyn calendr newydd gysylltu â thîm Strydoedd o Fri ar 01978 29 89 89.

Yn gyffredinol, mae’r newid wedi mynd yn dda gyda mwyafrif y trigolion yn rhoi’r bin cywir allan i’w gasglu ar y diwrnod a nodwyd ar eu sticer bin. Yr wythnos nesaf gofynnir i drigolion wirio eu calendrau gan y bydd hyn yn nodi pa fin a gesglir oherwydd mewn rhai ardaloedd cesglir y bin du eto cyn y bydd y casgliadau bob yn ail wythnos arferol yn dechrau.

Os ydych yn ansicr pa fin i’w roi allan gallwch gysylltu â rhif Strydoedd o Fri sef 01978 298989 neu wirio’r manylion ar wefan Cyngor Wrecsam www.wrecsam.gov.uk/stryd

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd,:

"Rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed yr wythnos hon ac mae trigolion wedi derbyn y neges i wirio eu diwrnod newydd. Dros yr wythnosau i ddod daw ein criwiau’n fwy cyfarwydd gyda’r teithiau newydd y maent yn eu gweithredu a bydd effeithiolrwydd y gwasanaeth yn gwella. Mae manteision hirdymor i’r gwasanaeth drwy leihau 1,000 o filltiroedd bob pythefnos, arbed tanwydd a gostwng ein hôl troed carbon ynghyd â chynllunio ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf."

Dywedodd John Bradbury Prif Swyddog yr Amgylchedd:

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i staff a thrigolion am helpu yn y newid drosodd pwysig a gobeithiwn ddychwelyd i’r gwasanaeth normal yn fuan iawn."

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint